Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Addysg ddewisol yn y cartref (ADdC)

​​​​​Addysg ddewisol yn y cartref (ADdC) yw pan fydd rhieni neu ofalwyr yn addysgu eu plant gartref yn hytrach na’u hanfon i’r ysgol. Rhaid i'r addysg yn y cartref fod yn llawn amser, yn addas ac yn effeithlon. Os byddwch yn dewis addysgu eich plentyn gartref, rhaid i chi fod yn barod i dalu am eu haddysg gyfan yn llawn. 

Cofrestru ar gyfer ADdC

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol brif ffrwd ar hyn o bryd a’ch bod yn dewis eu haddysgu gartref. mae’n rhaid i chi ysgrifennu at yr ysgol i'w hysbysu o'ch penderfyniad. 

Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac wedi cael lle mewn darpariaeth arbenigol, mae'n rhaid i ni gytuno i'ch cais cyn iddynt gael eu tynnu oddi ar gofrestr yr ysgol.  

Pan gânt eu tynnu oddi ar y gofrestr, bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i ni a bydd Swyddog ADdC yn cysylltu â chi. Mae'r Swyddog ADdC yn darparu cefnogaeth ac arweiniad, ac maent yn gyfrifol am sicrhau bod yr addysg gartref yn effeithlon, yn addas ac yn briodol.

Mae eich plentyn yn mynychu ysgol brif ffrwd ac mae ganddo gynllun datblygu unigol

Os oes gan eich plentyn gynllun datblygu unigol (CDU) sy'n cael ei gynnal gan yr ysgol, dylai'r ysgol ofyn i ni gynnal y cynllun unwaith y bydd eich plentyn yn cael ei dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol. 
Bydd panel cyngor yn ystyried y cais ac yn penderfynu a oes gan eich plentyn ADY o hyd sydd angen CDU sy'n cael ei gynnal gennym. 

Mae eich plentyn yn mynychu ysgol arbenigol ac mae ganddo gynllun datblygu unigol

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol arbenigol, bydd angen i chi gael caniatâd gennym ni cyn ei dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol. 

Efallai fod gan eich plentyn ADY ond nad oes ganddo gynllun datblygu unigol

Os yw eich plentyn yn cael ei addysgu gartref a'ch bod yn credu bod ganddo anghenion dysgu ychwanegol, gallwch ofyn i ni benderfynu drwy gwblhau hysbysiad anghenion dysgu ychwanegol. 

Cysylltwch â ni ar:


Os penderfynwn fod ganddynt ADY, byddwn yn paratoi CDU. Mae gennym Swyddog Dynodedig a all eich cefnogi drwy'r broses hon. 

Bydd y Swyddog Dynodedig yn eich cefnogi a'ch arwain drwy’r broses o adnabod ADY. Os penderfynwn fod ganddynt ADY, byddant hefyd yn gyfrifol am gydlynu cyfarfodydd sy'n canolbwyntio​ ar yr unigolyn ac ysgrifennu'r CDU.   

Mae angen darpariaeth ddysgu ychwanegol ar eich plentyn 

Rydym yn penderfynu bod gan eich plentyn ADY, byddwn yn paratoi ac yn cynnal CDU ac yn sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun. Nid yw hyn yn golygu y byddwn yn darparu'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn uniongyrchol. 

Er enghraifft, os yw'r CDU yn dweud y dylai'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gynnwys cymorth un i un, gallai gael ei ddarparu gennych chi. Byddai angen i ni sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei darparu o hyd, a byddai hyn yn cael ei asesu fel rhan o'r adolygiad CDU blynyddol. 

Ysgrifennu'r cynllun datblygu unigol

Bydd y Swyddog Dynodedig yn trefnu cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i roi CDU yn ei le. Gellir cynnal y cyfarfod hwn yn eich cartref neu mewn lleoliad arall y cytunwyd arno. Byddwch chi a'ch plentyn yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau a’r cynllunio. Gofynnir i chi pwy hoffech gael gwahoddiad i'r cyfarfod.  

Nid ydych eisiau CDU

Os ydych chi'n teimlo bod ADdC yn diwallu anghenion eich plentyn ac nid oes angen CDU arno mwyach, gellir dewis dod â’r CDU i ben.  

Mae eich plentyn yn cael addysg arbenigol

Os yw eich plentyn yn cael cymorth gan athrawon neu dimau arbenigol yn yr ysgol, efallai y bydd yr athro yn gallu cyfrannu at gyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chynnig cyngor am y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y bydd ei hangen. Dylai hyn gael ei gynnwys yn y CDU.  

Os byddwch yn anghytuno â’n penderfyniad

Yn y lle cyntaf, dylech siarad â ni am y penderfyniad, neu gael cyngor annibynnol am ddim gan SNAP Cymru

Gallwch gysylltu â’n llinell gymorth a chyngor ar 029 2087 2731 neu e-bostio  LlinellGymorthADY@caerdydd.gov.uk.  

Os na allwch ddatrys hyn gyda ni, mae gennych hawl i gyflwyno apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru​. Byddant yn penderfynu beth sydd orau i'ch plentyn. 

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd