Mae cynllun datblygu unigol yn gynllun cytunedig o bwy fydd yn cefnogi'r dysgwr, beth fydd yn digwydd i'w gefnogi, a sut y caiff ei gefnogi.
Crëir CDU drwy gydweithio â'r dysgwr, ei riant neu ofalwr, ac asiantaethau eraill a allai fod yn gysylltiedig. Er enghraifft, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.
Bydd y cynllun yn cael ei adolygu bob blwyddyn.
Beth sydd yn y CDU?
Bydd CDU y dysgwr yn cynnwys:
- Enw
- Oedran
- Yr enw yr hoffai ei ddefnyddio
- Rhywedd a rhagenwau
- Cyfeiriad
- Enw’r ysgol
- Sut mae’n cyfathrebu orau
- Pwy sy'n gofalu am y CDU
- Proffil Un Dudalen
- Disgrifiad o'i anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
- Y ddarpariaeth a fydd ar waith i’w gefnogi yn yr ysgol a phwy fydd yn gwneud hynny
- Digwyddiadau allweddol yn ei fywyd
- Cofnod gwybodaeth
- Trefniadau pontio
- Trefniadau trafnidiaeth
Pwy sy'n ysgrifennu'r CDU
Caiff y CDU ei ysgrifennu gan yr ysgolion gyda’r dysgwr, ei deulu a phobl eraill sy'n ei adnabod.
Weithiau byddwn yn ysgrifennu'r cynllun.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?
Os yw’r ysgol yn ysgrifennu'r CDU, gall gymryd 7 wythnos ysgol. Os ydym ni’n ysgrifennu'r CDU, gall gymryd 12 wythnos.
Newidiadau yn y cynllun
Bydd y cynllun yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Os yw rhywbeth wedi newid yn sylweddol ym mywyd y dysgwr, gall y cynllun gael ei adolygu’n gynt.
Yn ystod yr adolygiad, bydd y cynllun yn cael ei wirio i sicrhau ei fod yn dal i weithio ac a oes angen newidiadau.
Os ydych yn anghytuno â'r cynllun
Gallwch siarad â'r cydlynydd dynodedig neu athro dosbarth yn yr ysgol.
Mae’r cydlynydd dynodedig yn oedolyn yn yr ysgol sy’n adnabod y dysgwr yn dda a bydd yn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ADY a CDUau.
Os oes gennych gwestiynau o hyd ar ôl siarad â'r ysgol, gallwch gysylltu â ni.
Ffôn: 029 2087 2731
Y cymorth sydd ar gael
Os ydych chi neu'r dysgwr angen help drwy'r broses, efallai y byddwch am gael ffrind achos. Gall ffrind achos fod yn ffrind agos, aelod o'r teulu, gweithiwr cymdeithasol neu athro.
Mae ffrind achos yn wahanol i eiriolwr annibynnol, gan y gall ffrind achos arfer hawliau'r dysgwr ar ei ran. Mae eiriolwr annibynnol yn cynnig cyngor, cymorth a chynrychiolaeth.
Mae gan ddysgwyr a rhieni yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau