Mae ymagwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn:
- ystyried dymuniadau, barn a dyheadau’r plentyn neu’r person ifanc.
- canolbwyntio ar y plentyn neu'r person ifanc.
- sicrhau bod y plentyn neu'r person ifanc a'i riant neu ofalwr wrth wraidd y cynllunio a'r broses o wneud penderfyniadau.
- sicrhau bod pobl ac asiantaethau eraill sy'n adnabod y plentyn neu'r person ifanc yn cymryd rhan (er enghraifft, aelodau o'r teulu, gweithwyr iechyd proffesiynol, staff y grŵp chwarae, athrawon, gweithwyr cymdeithasol).
- mae’n ymwneud â gwrando, arsylwi a dysgu yn barhaus.
Pam rydym yn trefnu cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn?
Efallai y byddwn yn trefnu cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gael gwybodaeth gan bawb sy'n cefnogi'r plentyn. Gall hyn gynnwys:
- gweithwyr gofal iechyd proffesiynol; ac
- athrawon neu staff y grŵp chwarae.
Yn y cyfarfodydd hyn, efallai y byddwn yn penderfynu a oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY) sy'n gofyn am ddarpariaeth dysgu ychwanegol, neu a oes angen i ni wneud atgyfeiriadau amgen.
Beth sy'n digwydd cyn cyfarfod?
Bydd y person sy'n arwain y cyfarfod yn:
- gwneud yn siŵr eich bod chi a’ch plentyn yn rhan o’r broses,
- gwahodd gweithwyr proffesiynol perthnasol i'r cyfarfod,
- trefnu man cyfarfod addas, ac yn
- casglu unrhyw wybodaeth sydd ei hangen.
Bydd angen i bawb sy'n cael eu gwahodd i'r cyfarfod ystyried:
- Beth rydym ni’n ei hoffi a’i edmygu am y plentyn?
- Beth sy’n bwysig i’r plentyn?
- Beth sy’n gweithio?
- Beth nad yw’n gweithio?
- Beth sy'n bwysig i'r plentyn nawr ac yn y dyfodol?
Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?
Bydd y cyfarfod mor rhyngweithiol â phosib a bydd gan bawb gyfle i gyfrannu. Byddwn yn defnyddio'r holl wybodaeth y soniwyd amdani i greu cynllun gweithredu i gefnogi'r plentyn neu'r person ifanc yn yr ysgol neu'r coleg.
Beth sy’n digwydd ar ôl y cyfarfod?
Efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn y cyfarfod i greu amrywiaeth o gynlluniau, megis:
- cynllun gofal iechyd unigol,
- proffil un dudalen, neu
- gynllun datblygu unigol.
Os yw'r cynlluniau'n cael eu creu, mae'n rhaid eu hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn.
Efallai y byddwn yn datblygu proffil un dudalen yn ystod y cyfarfod. Mae'r proffil yn rhoi cipolwg cadarnhaol ar y plentyn neu'r person ifanc ac yn cynnwys:
- beth sy'n wych am y plentyn,
- beth sy’n bwysig i’r plentyn, a
- sut gallwn ni ei gefnogi.