Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn ar gyfer pobl sydd un ai’n cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol sy’n cynnwys elfen tai tuag at eu rhent ond sydd angen help ychwanegol gyda'u rhent neu eu costau tai. Dim ond hyn a hyn o arian sydd gennym i wneud y taliadau hyn felly dim ond i’r rhai mewn gwir angen y gellir eu rhoi.
Gallwn roi Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn am amryw resymau, gan gynnwys:
- help ychwanegol i bobl y mae ei hamgylchiadau wedi newid yn sydyn,
- cymorth ychwanegol i bobl yr effeithir arnynt gan y
Cyfyngiad Maint neu’r
Cap Budd-daliadau,
- cymorth ychwanegol i rieni maeth a phobl sy’n cael llety â chymorth.
Help ychwanegol i dalu’ch rhent
Os nad yw’ch budd-dal tai neu elfen costau tai ieich Credyd Cynhwysol, yn talu’ch rhent yn llawn, ac na allwch fforddio talu’r gwahaniaeth, mae’n bosibl y gallech hawlio Taliad Tai Dewisol. Byddwn yn asesu’ch amgylchiadau i benderfynu ar ba un a ydych mewn angen ariannol ac yn wynebu amgylchiadau eithriadol.
Angen Ariannol
I gadarnhau na allwch fforddio talu’r diffyg yn y rhent, mae angen i ni asesu’r holl incwm a chyfalaf sydd gennych chi a’ch partner. Mae hyn yn cynnwys incwm ar gyfer amgylchiadau arbennig megis Lwfans Byw i'r Anabl neu
Daliad Annibyniaeth Personol.
Rydym yn cymharu’r cyfanswm hwn â threuliau wythnosol rhesymol ac yn cyfrifo p'un a oes gennych ddigon o arian ar ôl i dalu’r diffyg rhent.
Amgylchiadau Eithriadol
Os byddwn yn cadarnhau bod gennych angen ariannol yna byddwn yn ystyried p’un a ydych yn wynebu amgylchiadau eithriadol ai peidio.
Byddwn yn edrych ar eich manylion personol a rhai eich teulu, gan ystyried yr holl wybodaeth a roddwch i ni.
Am ba mor hir y gallaf hawlio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn?
Fel arfer dim ond am gyfnod byr, er enghraifft 6 mis, y telir Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i helpu i dalu rhent. Os bydd angen help arnoch o hyd ar ôl i’ch taliadau ddod i ben, bydd angen i chi ailymgeisio.
Weithiau gallwn ôl-ddyddio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn.
Os yw hyn yn gymwys i chi, bydd angen i chi ofyn i'ch taliadau gael eu hôl-ddyddio, gan roi rhesymau da am beidio â hawlio'n gynt.
Os hoffech ragor o wybodaeth am hawlio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn, cysylltwch â ni.
Sut i wneud cais am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn
Gwneud cais am Daliad Tai Dewisol
Am help i gwblhau'r ffurflen, neu i gasglu copi papur i gwblhau, ymwelwch â’ch
Hyb lleol.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Ni fydd eich cais yn cael ei ystyried oni bai eich bod wedi lanlwytho’r 2 gyfriflen banc fisol diweddaraf ar gyfer unrhyw gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif Swyddfa'r Post sydd gennych.
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol bydd rhaid i chi hefyd gyflwyno eich datganiad diweddaraf sy’n dangos dadansoddiad llawn o sut y cafodd eich Credyd Cynhwysol ei gyfrifo, a thystiolaeth o’ch rhent.
Ar ôl i ni dderbyn eich cais wedi'i gwblhau, bydd aelod o'n tîm Diwygio Lles yn cysylltu â chi i gwblhau'r broses ymgeisio.
Mae angen i ni asesu'ch sefyllfa'n llawn cyn y gallwn ddyfarnu Taliad Tai yn ôl Disgresiwn.