Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Treth ystafell wely (cyfyngu maint)

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Os ydych yn byw mewn tŷ Cyngor neu Gymdeithas Tai, a bod gennych un neu fwy o ystafelloedd gwely 'sbâr', gallai'ch Budd-dal Tai fod wedi'i leihau - cyfeirir at hyn fel y ‘dreth ystafell wely’ yn aml. Disgwylir i blant rannu ystafell wely.




Ni fydd hyn yn effeithio arnoch os: 

  • ydych chi a eich partner o oedran credyd p​ensiwn,

  • rydych chi'n byw mewn rhai mathau o lety dros dro

  • bod gennych denantiaeth perchenogaeth a rennir 

Rydych yn cael un ystafell wely am bob:

  • Cwpl sy'n oedolion.

  • Unrhyw oedolyn arall (16 oed neu'n hŷn).

  • Unrhyw ddau blentyn o'r un rhyw dan 16 oed.

  • Dau blentyn dan 10 oed p’un a ydynt yn fechgyn neu’n ferched.

  • Unrhyw blentyn arall.

  • Gofalwr nad yw fel arfer yn byw gyda chi ond sy’n rhoi gofal dros nos i aelod o’ch cartref.​
    ​​​


Nid yw plant sydd fel arfer yn byw yn rhywle arall yn cyfrif. 

Gallwch ddefnyddio’r cyfrifiannell ystafell wely i gael syniad o sut y gallai hyn effeithio arnoch. ​

Os oes gennych un ystafell wely ‘sbâr’, bydd eich budd-dal tai yn cael ei leihau o leiaf 14%.

Os oes gennych ddwy neu fwy ystafell sbâr bydd eich Budd-dal tai yn cael ei leihau o leiaf 25%.​

Pan wnaethoch symud i'ch cartref, roedd hynny ar sail cytuno bod nifer penodol o ystafelloedd gwely yno.

Os ydych o'r farn fod hynny'n anghywir, a bod gan eich cartref lai o ystafelloedd gwely, dylech wneud y canlynol:

  • cysylltu â ni os ydych yn denant i'r cyngor, neu
  • siarad â'ch landlord os ydych yn denant Cymdeithas Tai.

Dan amgylchiadau eithriadol iawn, gallai'ch landlord ystyried ailddosbarthu'ch tŷ fel eiddo llai.  Os gwnaiff hyn, a'i fod yn lleihau'ch rhent, caiff eich cais ei ystyried eto, a gwneir penderfyniad ar ba un a ddylid diwygio'ch budd-dal.

Os ydych yn denant y Cyngor, cysylltwch â ni. Os ydych yn denant Cymdeithas Tai, siaradwch â’ch landlord.  





Gweler rhestr o eithriadau i'r 'dreth ystafell wely'. 


Plant Anabl


Os oes gennych blentyn anabl na all rannu ystafell wely, gallem ganiatáu ystafell wely ychwanegol i chi wrth
gyfrifo eich Budd-dal Tai.


Mae angen i chi roi gwybodaeth i ni am anableddau'r plentyn a pham na all rannu ystafell wely. Rhaid i’ch
plentyn gael naill ai cyfradd ganolog neu gyfradd uwch elfen gofal y Lwfans Byw i'r Anabl.

Gwneud cais am eithriad treth ystafell wely ar gyfer plentyn anabl na all rannu ystafell wely (209kb PDF)​.   

Oedolion Anabl Na Allant Rannu Ystafell Wely

Os yw un oedolyn o gwpl yn methu â rhannu ystafell wely oherwydd ei anableddau, o 1 Ebrill 2017 gallwn o bosibl ganiatáu ystafell wely ychwanegol wrth gyfrifo’ch Budd-Dal Tai.

Mae angen i chi ddweud wrthym am anableddau'r oedolyn a pham na all rannu ystafell wely. I ymgeisio, mae'n
rhaid bod yr oedolyn yn cael y canlynol: 

  • graddfa ganolig neu uchel elfen ofal y Lwfans Byw I'r Anabl,

  • cyfradd uwch y Lwfans Gweini,

  • Elfen Byw Bob Dydd y Taliadau Annibyniaeth Bersonol, neu​​

  • Taliadau Annibyniaeth y Lluoedd Arfog. 

Gwneud cais am eithriad treth ystafell wely ar gyfer oedolyn anabl na all rannu ystafell wely (206kb PDF). 

Gofalwr maeth​​

Os ydych yn ofalwr maeth cymeradwy a effeithir arnoch gan y cyfyngiadau maint, cewch un ystafell wely
ychwanegol pan gaiff eich Budd-dal Tai ei gyfrifo. ​Bydd hyn hefyd yn berthnasol rhwng lleoliadau ar yr amod
eich bod wedi maethu plentyn, neu wedi dod yn ofalwr maeth cymeradwy, yn ystod y 12 mis diwethaf.

Gwneud cais am eithriad treth ystafell wely ar gyfer gofal​wr maeth (230kb PDF).  ​

Mab neu ferch sy’n oedolyn yn y lluoedd arfog

Os oes gennych blentyn sy'n oedolyn sydd fel arfer yn byw gyda chi, ond sydd i ffwrdd â'r fyddin a hyn o bryd, caniateir ystafell wely ychwanegol i chi dros y cyfnod hwnnw.  Bydd hyn hefyd yn berthnasol i lysblentyn.

Rhaid ei fod wedi byw gyda chi fel oedolyn yn flaenorol, ac yn bwriadu dychwelyd i fyw yn eich cartref. 

Cysylltwch â ni os ydych o'r farn bod hyn yn berthnasol i chi.

​Os ydych yn pryderu ynghylch talu'ch rhent, gofynnwch am gyngor nawr. Os nad ydych yn talu'ch rhent, gallech golli'ch cartref. Gallwch:


Os ydych chi’n un o denantiaid y Cyngor ffoniwch 029 2053 7111. 


Os ydych yn denant cyngor neu Gymdeithas Tai a’ch bod am symud i eiddo llai, mae help ychwanegol ar gael i chi.​

Rhestr Aros â Blaenoriaeth i Symud i Eiddo Llai

Os ydych am symud i eiddo llai, gallwch wneud cais i ymuno â'r rhestr hon.


Byddwn yn gwneud 2 gynnig rhesymol o lety i chi. Os byddwch yn gwrthod y ddau, cewch eich dileu o’r rhestr ac ni fyddwch yn derbyn unrhyw gynigion pellach.

I gael gwybodaeth am y rhestr, cysylltwch â ni. Gall tenantiaid Cymdeithasau Tai gysylltu â'u landlord hefyd.

Cyfnewid eich tŷ â thenant arall

Gallwch ddod o hyd i denantiaid eraill y Cyngor neu Gymdeithas Tai sydd eisiau cyfnewid cartrefi ar Homeswapper​.

Help gyda’r diffyg


Os na allwch fforddio talu’r diffyg yn eich rhent ar eich pen eich hun, gallech o bosibl dderbyn Taliadau Tai Dewisol. Gall y taliadau hyn helpu gyda’r gostyngiad yn eich Budd-dal Tai wrth i chi aros i symud cartref.

I fod yn gymwys ar gyfer y taliadau hyn:

  • Mae'n rhaid i chi fod ar y Rhestr Aros â Blaenoriaeth i Symud i Eiddo Llai,

  • Mae’n rhaid i chi fod wedi dewis o leiaf un ardal yng Nghaerdydd lle mae llawer o eiddo addas ar gael,

  • Mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru ar Homeswapper gyda chyfrif byw.


​Os oes gan eich tŷ addasiadau i helpu ag anabledd, byddwn yn gweithio gyda Tai Hygyrch Caerdydd i:

  • Helpu chi i ddod o hyd i eiddo ag addasiadau neu eiddo lle nad oes angen addasiadau yno mwyach,

  • Rhoi addasiadau newydd i chi mewn tŷ newydd llai o faint. ​

Os ydych yn un o denantiaid y Cyngor neu Gymdeithas Tai a bod y rheolau cyfyngu maint yn effeithio arnoch, efallai bod gennych hawl i £250 o'r gronfa Taliadau Tai Dewisol i helpu â'ch costau symud.   Telir yr arian hwn gan yr adran Budd-dal Tai i'ch cyfrif banc.

I gael y cymorth hwn rhaid eich bod yn symud i dŷ Cyngor neu Gymdeithas Tai newydd sy'n llai na'ch cartref cyfredol.   Nid oes rhaid i'r tŷ newydd fod yng Nghaerdydd.

Gallwch wneud cais am y cymorth hwn pan fyddwch yn llofnodi eich tenantiaeth newydd. ​

Os ydych yn un o denantiaid y Cyngor a bod y rheolau cyfyngu maint yn effeithio arnoch, gallech hefyd hawlio Taliad Amharu Diwygio Lles. Taliad o £250 yw hwn i helpu â’r gost o roi trefn ar eich cartref newydd. Fe'i telir gan Uned Gosod Tai Cymdeithasol y Cyngor i'ch cyfrif banc.

Gallwch wneud cais am y cymorth hwn pan fyddwch yn llofnodi eich tenantiaeth newydd.

Mae rhai Cymdeithasau Tai yn cynnig help hefyd. Dylai tenantiaid Cymdeithasau Tai gysylltu â'u landlord am ragor o wybodaeth. 

Os ydych yn cael Budd-dal Tai, a'ch bod am symud i dŷ rhent preifat, gallech gael help gyda bond neu rent ymlaen llaw. I gael help, rhaid eich bod:


  • wedi'ch effeithio gan Ddiwygio Lles neu fod gennych reswm da dros fod angen symud tŷ,

  • wedi dod o hyd i dŷ newydd yng Nghaerdydd ac yn barod symud i mewn iddo, ac

  • yn gallu fforddio’r rhent yn eich cartref newydd. 

Nod gwefan Tai Caerdydd yw helpu pobl sy'n chwilio am dŷ drwy roi gwybodaeth am lety rhent a llety fforddiadwy. ​Gall landlordiaid hefyd hysbysebu eu heiddo a chael gwybodaeth am safonau llety gofynnol, opsiynau achredu a materion eraill.

Ewch i wefan Tai Caerdydd​.​


Cysylltu â ni​

Am fwy o wybodaeth, gallwch hefyd ymweld â'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai.

Gwasanaeth Dewisiadau Tai
Hyb y Llyfrgell Ganolog   
Yr Ais 
Caerdydd 
​CF10 1FL​

​​​​Ffôn: 029 2057 0750.

Gweld oriau agor y Gwasanaeth Dewisiadau Tai​​.​​​

Cysylltu â ni​ 







© 2022 Cyngor Caerdydd