Mae'r cap budd-daliadau yn derfyn gan y llywodraeth ganolog i gyfanswm y budd-dal y caiff pobl oedran gweithio ei dderbyn.
Darganfyddwch a yw'r cap budd-daliadau yn effeithio arnoch chi.
Mae'r cap budd-daliadau yn effeithio ar:
- Gredyd Cynhwysol,
- Lwfans Profedigaeth,
- Budd-dal Plant,
- Credyd Treth Plant,
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth,
- Budd-dal Tai,
- budd-dal analluogrwydd,
- Cymhorthdal Incwm,
- Lwfans Ceisio Gwaith,
- Lwfans Mamolaeth,
- Lwfans Anabledd Difrifol, a
- Lwfans Rhiant Gweddw (neu Lwfans Mam Weddw neu Bensiwn Weddw os dechreuoch ei gael cyn 9 Ebrill 2001).
Sylwer, os ydych yn rhan o gwpl a naill ai eich bod chi neu'ch partner chi o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall y cap effeithio arnoch chi.
Ni fydd effaith arnoch gan y cap os ydych chi neu eich partner:
- yn derbyn Credyd Treth Gwaith (hyd yn oed os mai'r 'swm' a gewch yw £0),
- yn derbyn Credyd Cynhwysol oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd sy'n eich atal rhag gweithio (gelwir hyn yn 'allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith'),
- yn derbyn Credyd Cynhwysol oherwydd eich bod yn gofalu am rywun sydd ag anabledd, neu
- yn derbyn Credyd Cynhwysol ac mae'r ddau ohonoch yn ennill £793 neu fwy (gyda'i gilydd) y mis, ar ôl treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Ni fydd effaith arnoch ychwaith os ydych chi, eich partner, neu unrhyw blant dan 18 oed sy'n byw gyda chi eisoes yn cael help trwy:
- Daliad Anabledd Oedolion (TAO),
- Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog,
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog,
- Lwfans Gweini,
- Lwfans Gofalwr,
- Taliad Cymorth i Ofalwyr,
- Taliad Anabledd Plant,
- Lwfans Byw i'r Anabl (LBA),
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (os ydych yn derbyn yr elfen gymorth),
- Lwfans Gwarcheidwad,
- Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol (a thaliadau cyfatebol fel rhan o Bensiwn Anabledd Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog),
- Taliad Annibyniaeth Bersonol (TAB),
- Pensiynau rhyfel, neu
- Pensiwn Gweddwon Rhyfel.
Beth yw’r terfyn?
Gweld cyfanswm y budd-dal y gallwch ei gael.
Cap budd-daliadau y tu allan i Lundain Fwyaf
Os ydych chi'n gwpl
| £423.46
| £1,835
|
Os ydych chi'n rhiant sengl ac mae eich plant yn byw gyda chi
| £423.46
| £1,835
|
Os ydych chi'n oedolyn sengl
| £283.71
| £1,229.42
|
Sylwer, os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Plant, ni allwch wneud cais newydd am Gredyd Treth Gwaith mwyach. Gallwch barhau i ychwanegu Credyd Treth Gwaith at hawliad credyd treth plant presennol.
Beth gallaf ei wneud nawr?
Gwybodaeth am ba gamau i'w cymryd nesaf.
Ewch i'ch Hyb lleol
Yn ein
Hybiau gallwn eich helpu chi:
Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau eraill
Os nad ydych yn cael Credyd Cynhwysol ond yn cael budd-daliadau eraill, gallwch ffonio'r llinell gymorth cap budd-daliadau ar 0800 169 0238.