Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Strategaeth Cyfranogiad

​​​Mae cyfranogiad y cyhoedd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod lleisiau dinasyddion wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.  Mae'n rhoi cyfle i anghenion a dyheadau cymunedau gael eu clywed ac yn galluogi darparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ymateb.

Pwrpas ein Strategaeth Cyfranogiad yw sefydlu perthynas â chymunedau yn seiliedig ar ymddiriedaeth, sefydlu ymrwymiad i wrando ar bob llais a sicrhau bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed wrth i ni weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â blaenoriaethau lleol.

Mae'r Strategaeth Cyfranogiad ddrafft yn nodi ein hymrwymiad i gryfhau cyfranogiad ac ymgysylltiad a chyfres o gamau i sicrhau y gellir clywed pob llais yn y ddinas a gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'i threfniadau cyfranogiad democrataidd presennol.  

Mae gan y strategaeth ddwy elfen benodol:  

  • Mae rhan un yn canolbwyntio ar ymgynghori ac ymgysylltu i hyrwyddo llais y dinesydd wrth wneud penderfyniadau
  • Mae rhan dau yn canolbwyntio ar hyrwyddo cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd



অংশগ্রহণের কৌশল পড়ুন (3mb PDF)

Zapoznaj się ze Strategią Uczestnictwa​ (3mb PDF)​

Mae fersiynau copi caled, hawdd eu deall a ffont mawr o'r Strategaeth Cyfranogiad ar gael ar gais.​

© 2022 Cyngor Caerdydd