Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymgynghoriad ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft ar gyfer 2024 i 2028

​​​Gweld ​​arolwg Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft​ 2024 i 2028​.

Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chy​nhwysiant. Mae hyn yn golygu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn ei holl ffurfiau a sicrhau bod pawb yng Nghaerdydd: ​​​​​​

  • yn gallu manteisio ar gyfleoedd,  
  • yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac  
  • yn cael eu gwerthfawrogi.


Pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau ac yn darparu gwasanaethau, rhaid i ni anelu at: 

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall y mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei wahardd.
  • hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig perthnasol a phobl heb un o’r nodweddion hynny.
  • meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig a’r rheiny nad oes ganddynt y fath nodweddion.


Mae nodwedd warchodedig yn disgrifio rhan o hunaniaeth unigolyn sy'n ei wneud y person ydyw.  Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin yn gyfartal ac yn deg. Ni ddylid eu trin yn llai ffafriol na gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu nodwedd.  

Y 9 nodwedd gwarchodedig yw:  

  • oedran,
  • anabledd, 
  • ailbennu rhywedd, 
  • priodas a phartneriaeth sifil,
  • beichiogrwydd a mamolaeth, 
  • hil, 
  • crefydd neu gred (gan gynnwys dim crefydd neu gred),
  • rhywedd, a 
  • chyfeiriadedd rhywiol.

Rydym yn ceisio trin pobl yn deg ac yn gyfartal drwy sicrhau ein bod yn gwrando ar farn ystod eang o bobl. 

Mae angen i ni wybod pryd mae mater yn effeithio ar grŵp penodol yn fwy nag eraill. Dyma pam rydyn ni'n gofyn am nodweddion gwarchodedig yn ein holl waith ymgysylltu a'n hymgyngoriadau.
 

                                                                                         (4.2m​b PDF) مسودة إستراتيجية المساواة والتنوع واالندماج للسنوات 2028-2024​





Video id: T_KnSXhNlT8​



Fe wnaethom ddatblygu'r cynllun a nodi unrhyw faterion sy'n arwain at anghydraddoldeb yn y ddinas drwy adolygu tystiolaeth ac ymchwil flaenorol, megis: 

  • arolygon blynyddol Holi Caerdydd, a’r 
  • Cyfrifiad. 

Gwnaethom hefyd ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid. Gallwch ddarllen am ein canfyddiadau yn y crynodeb o’r Asesiad o Anghenion Cydraddoldeb 2023 (3.1mb PDF).

Pam rydyn ni’n ymgynghori 

Cynllun drafft yw hwn, sy'n golygu nad dyma'r fersiwn derfynol. Rydyn ni am i chi ein helpu i lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy'n nodi ein hamcanion ar gyfer y 4 blynedd nesaf.  

Trefnir y cynllun hwn o amgylch 5 amcan cydraddoldeb drafft. Maen nhw’n diffinio ein huchelgais ar gyfer y ddinas a sut rydyn ni am sicrhau deilliannau tecach i'n holl breswylwyr. Rydyn ni’n defnyddio dangosyddion perfformiad i helpu i fesur ein cynnydd.



Ein hamcanion cydraddoldeb arfaethedig yw:

Caerdydd decach

Byddwn yn lleihau anghydraddoldeb ac yn cefnogi pawb yng Nghaerdydd i gyflawni eu potensial.

Caerdydd hygyrch

Byddwn yn gweithio i sicrhau y gall pawb gymryd rhan ym mhopeth sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.

Caerdydd gynhwysol

Byddwn yn gwneud Caerdydd yn ddinas lle mae gwahaniaethau’n cael eu deall a'u dathlu, a lle mae pob cymuned yn teimlo ei bod yn perthyn. 

Cyngor sy'n adlewyrchu ei gymunedau

Byddwn yn gwneud Cyngor Caerdydd yn sefydliad mwy cynhwysol: 

  • sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl rydym yn eu gwasanaethu, a 
  • lle mae gweithwyr yn hyderus i fod yn nhw eu hunain ac yn cael eu grymuso i wneud cynnydd. 

Rhoi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd y sefydliad

Byddwn yn sicrhau bod ein prosesau craidd yn cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.​
 


Dweud eich dweud

Hoffem gael eich barn ar ein hamcanion cydraddoldeb drafft ar gyfer 2024 i 2028.  

Rydym eisiau gwybod pa faterion sy'n bwysig i chi, a'r hyn y credwch y dylem ganolbwyntio arno dros y 4 blynedd nesaf i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y ddinas. 

Rydym hefyd eisiau clywed eich awgrymiadau ar sut i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eich ardal chi neu ar draws y ddinas gyfan. 

Bydd yr ymgynghoriad yn agor ar 3 Mehefin ac yn cau ar 14 Gorffennaf. 

Llenwch ein harolwg​



Wedi i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau i adolygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft i sicrhau ein bod wedi nodi'r materion cywir.  Byddwn hefyd yn adolygu'r amcanion cydraddoldeb drafft i sicrhau mai dyma sy’n bwysig i chi o hyd. 

Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol terfynol yn mynd i'r Cabinet i'w gymeradwyo ym mis Medi 2024. Mae'r cyfarfod yn agored i'r cyhoedd a bydd yn cael ei ddarlledu ar y we. Mae croeso i chi wylio'r cyfarfod yn fyw neu ei wylio yn ddiweddarach ar-lein. Ewch i'n gwefan gweddarlledu​. Gallwch hefyd wylio recordiadau o gyfarfodydd eraill ar y wefan.







© 2022 Cyngor Caerdydd