- Rhaid i'ch plentyn ddangos ei bàs bws i'r gyrrwr cyn iddo fynd ar y bws. Dim pàs bws, dim teithio.
- Gallwch brynu pasys bws dim ond os oes seddi sbâr ar rai gwasanaethau.
- Os ydych wedi prynu pàs bws ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, nid yw hynny’n gwarantu trafnidiaeth yn y blynyddoedd i ddod.
- Gallwn ddiddymu sedd a brynwyd, ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, os oes ei hangen ar ddisgybl sy'n gymwys i gael trafnidiaeth am ddim neu os yw'r contract gyda’r darparwr gwasanaeth yn cael ei derfynu.
- Defnyddiwch un ffurflen gais fesul teulu.
- Os ydych wedi prynu pàs bws yn ystod gwyliau'r haf, bydd y pàs fel arfer yn cael ei gyhoeddi gan yr ysgol ym mis Medi. Os ydych wedi prynu pàs bws yn ystod y flwyddyn ysgol, byddwn yn ei bostio cyn gynted â phosibl.
- Gallwch archebu pàs bws newydd ar-lein.
- Os nad ydych wedi talu'r swm llawn ar gyfer trafnidiaeth blwyddyn flaenorol, ni fyddwn yn gwerthu pàs i chi.
- Os bydd y disgybl yn stopio defnyddio'r gwasanaeth, rhaid i chi ddweud wrthym yn ysgrifenedig ac anfon y pàs bws atom ar ddiwrnod teithio olaf y disgybl. Os ydych wedi talu am y flwyddyn academaidd yn llawn, byddwn yn ad-dalu'r gordaliad fesul tymor. Os ydych wedi talu blaendal, byddwn yn canslo'r cyfrif neu'r anfoneb am y balans sy'n ddyledus, cyn belled â bod eich llythyr a'r pàs wedi'u derbyn cyn dechrau'r tymor.
- Trwy dderbyn y telerau ac amodau hyn, mae'r disgybl wedi cytuno i ddilyn Cod Ymddygiad Teithio Llywodraeth Cymru.
Tîm Trafnidiaeth Teithwyr
Ystafell 301
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW