Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Trafnidiaeth ysgol brif ffrwd

​​​​​​​Rydym yn darparu trafnidiaeth ysgol am ddim i ddisgyblion 5 i 16 oed nad ydynt yn byw o fewn pellter cerdded i'w hysgol. Rydym yn mesur y pellteroedd gan ddefnyddio’r llwybr cerdded byrraf.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim a bod gwasanaeth bws ysgol yn eich ardal chi, byddwn yn cyhoeddi pàs bws ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. 

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim ac nad oes gwasanaeth bws ysgol yn eich ardal chi, byddwn yn cyhoeddi pàs bws y gellir ei ddefnyddio ar drafnidiaeth gyhoeddus. 


Cymhwysedd

Mae disgyblion o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 yn cael eu hasesu i weld a ydynt yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim bob blwyddyn. 
 
Ni fydd eich plentyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim yn yr achosion canlynol:

  • ni wnaethoch gais am yr ysgol ddalgylch, neu
  • cafodd gynnig ar gyfer yr ysgol ddalgylch ei wrthod.


Os ydych yn cofrestru eich plentyn yn hwyr neu os ydych wedi symud cyfeiriad yn ddiweddar, cysylltwch â ni. 

Os yw eich plentyn yn defnyddio trafnidiaeth ysgol am ddim, rydych wedi cytuno i'r polisi trafnidiaeth ysgol (117kb PDF)​ a chod ymddygiad Llywodraeth Cymru​.


Mae disgyblion ysgolion cynradd yn gymwys os ydynt yn byw dros 2 filltir o’u hysgol ddalgylch, neu'r ysgol agosaf nesaf y gwnaethoch gais amdani neu a gynigiwyd i chi, os yw’r ysgol ddalgylch yn llawn. 

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. 

Byddwn yn anfon llythyr atoch dros yr haf i ddweud wrthych pa wasanaeth y gall ei ddefnyddio ac amserlen y llwybr. 

Mae disgyblion ysgolion uwchradd yn gymwys os ydynt yn byw dros 3 milltir o’u hysgol ddalgylch, neu'r ysgol agosaf nesaf y gwnaethoch gais amdani neu a gynigiwyd i chi, os yw’r ysgol ddalgylch yn llawn. 

Gallwch weld amserlenni llwybrau bysus ysgolion uwchradd​

Disgyblion sy’n dechrau blwyddyn 7 ym mis Medi

Bydd pob disgybl sy'n dechrau blwyddyn 7 ym mis Medi yn cael ei asesu. Os yw eich plentyn yn gymwys, byddwn yn anfon llythyr atoch dros yr haf. 

Os nad ydych wedi derbyn eich llythyr yr wythnos cyn i'r tymor ddechrau, cysylltwch â ni. 

Disgyblion sy’n dechrau blynyddoedd 8 i 11 ym mis Medi

Byddwn yn asesu a yw eich plentyn yn gymwys i gael pàs bws bob blwyddyn. Os nad yw unrhyw beth wedi newid a bod eich plentyn yn gymwys o hyd, byddwn yn anfon llythyr atoch dros yr haf.

Os nad yw eich plentyn yn gymwys mwyach, byddwn yn rhoi gwybod i chi erbyn mis Awst. Os nad ydych wedi clywed gennym neu os oes gennych gwestiwn am gymhwysedd, cysylltwch â ni. 

Disgyblion sy’n dechrau blynyddoedd 12 a 13 ym mis Medi (ôl-16)

Nid ydym yn cynnig trafnidiaeth ysgol am ddim i ddisgyblion ôl-16. Os yw eich plentyn yn mynd i'r chweched dosbarth mewn ysgol lle arferai gael trafnidiaeth ysgol am ddim, efallai y byddwch yn gallu prynu pàs ar gyfer y gwasanaeth bws ysgol hwnnw. 


Os ydych am dalu am sedd sbâr ar wasanaeth bws ysgol, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein.

Darllenwch y telerau ac amodau llawn​

Oherwydd bod nifer y seddi sydd ar gael yn newid bob blwyddyn, bydd angen i chi wneud cais bob blwyddyn. ​




Os ydych am brynu sedd ar fws 600 neu 800, cysylltwch â’r darparwyr gwasanaeth.

Cost

Cost pàs ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025 yw £500. 

Os bydd sedd yn cael ei dyrannu i'ch plentyn, byddwn yn anfon anfonebau ym mis Hydref. Bydd yr anfonebau'n cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i dalu. 

Os oes unrhyw gwestiynau gennych am dalu, cysylltwch â'n tîm Adfer Incwm ar adferincwm@caerdydd.gov.uk​

Gwybodaeth ychwanegol 

Os byddwch yn prynu pàs, ni allwn warantu y bydd y pàs yn cael ei dderbyn cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd. Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud trefniadau dros dro eraill. ​


Cysylltu â ni

Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu os ydych am roi gwybod am ddigwyddiad, cwblhewch y ffurflen ar-lein. 

Cysylltu â ni

© 2022 Cyngor Caerdydd