Mae gan berson ag ADY anhawster dysgu neu anabledd sy'n golygu bod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) arno.
Person arweiniol
Os oes gan eich plentyn ADY, rhoddir enw a manylion cyswllt y person arweiniol i chi. Dyma'r person fydd yn eich cynorthwyo chi a'ch plentyn drwy'r broses ADY gyfan.
Cyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Byddwch chi a'ch plentyn yn cael eich gwahodd i
gyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn yr ysgol. Bydd pobl eraill sy'n adnabod neu'n ymwneud â'ch plentyn yn cael eu gwahodd i fynychu a chyfrannu eu barn, er enghraifft:
- athrawon,
- athrawon arbenigol,
- gweithwyr cymdeithasol, a
- gweithwyr iechyd proffesiynol.
Byddwch yn trafod ADY eich plentyn gyda'r mynychwyr eraill ac yn penderfynu a oes angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arno.
Cynllun datblygu unigol (CDU)
Yn seiliedig ar y wybodaeth a rennir yn y cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, bydd cynllun datblygu unigol (CDU) yn cael ei greu. Fel arfer mae CDU yn cael ei greu a'i adolygu gan yr ysgol.
Bydd y CDU yn cynnwys:
- manylion eich plentyn (fel enw, oedran, cyfeiriad),
- proffil sy'n amlygu'r hyn sy'n bwysig i'ch plentyn a'r ffordd orau y gall yr ysgol ei gefnogi a bodloni ei anghenion,
- disgrifiad o ADY eich plentyn
- disgrifiad o'r hyn y bydd yr ysgol yn ei ddarparu sy'n wahanol i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd (darpariaeth ddysgu ychwanegol),
- cofnod gwybodaeth,
- llinell amser y prif ddigwyddiadau, a
- threfniadau pontio a thrafnidiaeth.
Adolygu'r CDU
Unwaith y bydd y CDU yn cael ei greu, mae'n rhaid ei adolygu o fewn blwyddyn. Os bu newid sylweddol yn amgylchiadau eich plentyn, gellir ei adolygu'n gynharach.
Bydd y cyfarfod adolygu yn debyg i'r cyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Os ydych yn anghytuno â'r CDU
Os oes gennych unrhyw bryderon am y CDU, ewch ag ef at y person arweiniol yn yr ysgol. Os na allwch ddatrys eich pryderon, gallwn helpu. Cysylltwch â ni.
Os yw'r anghytundeb yn ymwneud ag asesiad, triniaeth neu wasanaeth y GIG, dylech siarad â'ch darparwr gofal iechyd yn gyntaf. Os na allwch ddatrys eich pryderon,
cysylltwch â GIG Cymru.
Eiriolaeth
Os oes angen mwy o gymorth a chefnogaeth arnoch, gallwch ddefnyddio eiriolwr. Eiriolwr yw rhywun fydd yn mynychu cyfarfodydd gyda chi ac yn siarad ar eich rhan. Gall fod yn:
- ffrind
- aelod o'r teulu, neu
- o asiantaeth broffesiynol.
Ffôn: 0808 801 0608
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am anghenion dysgu ychwanegol neu gynlluniau datblygu unigol, cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2087 2731