Rydym yn cynnig ymestyn y system llif traffig unffordd bresennol ar Stryd Pendyris.
Bydd y system unffordd hefyd ar waith o'r gyffordd lle mae Stryd Pendyris a Stryd Mardy yn cwrdd, i'r gyffordd lle mae Arglawdd Dôl Afon Taf a Stryd Pendyris yn cwrdd.
Bydd y mesurau yn golygu:
- bydd Stryd Pendyris yn dod yn hollol unffordd i draffig tua'r dwyrain,
- bydd lôn feicio wrthlif ar gael i feicwyr sy'n teithio tua'r gorllewin, a
- bydd beicwyr sy'n teithio tua'r dwyrain yn parhau i ddefnyddio'r lôn gerbydau.
Nod y cynigion hyn yw mynd i'r afael â'r pryderon traffig a godwyd yn rhan o waith monitro'r cynllun.
Gallwch weld y cynnig llawn yn y pecyn ymgynghori (1.36mb PDF).
Dweud eich dweud
Hoffem glywed eich barn ar y cynnig. Byddwn yn defnyddio unrhyw adborth i lywio'r dyluniadau sydd ar y gweill.
Llenwch ein harolwg.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni:
E-bost: TimRhaglenDrafnidiaeth@caerdydd.gov.uk
Post:
Tîm Rhaglen Drafnidiaeth
Neuadd y Sir
Ystafell 301
Caerdydd
CF10 4UW
Daw'r ymgynghoriad hwn i ben ar 23 Mehefin 2024.