Gallwch dalu eich HTC ar-lein gyda'ch cerdyn debyd neu gredyd, gan ddefnyddio ein system talu ar-lein ddiogel.
Beth sydd angen i chi ei dalu ar-lein
Bydd angen y canlynol arnoch:
- rhif yr HTC sy'n dechrau gyda QC, a
- rhif cofrestru eich cerbyd.
Peidiwch â thalu os ydych eisiau herio’r HTC. Rydym yn ystyried taliad yn gydnabyddiaeth o atebolrwydd ac os byddwch yn talu, efallai na fyddwn yn ystyried eich llythyr herio. Ni fydd y ddirwy yn cynyddu wrth i ni adolygu eich llythyr herio.
Ffyrdd eraill o dalu
Nid ydym yn derbyn taliadau arian parod. Os byddwch yn anfon arian parod, ni fyddwn yn derbyn atebolrwydd os caiff ei golli yn y post.
Beth sy'n digwydd i unrhyw incwm sy'n cael ei gasglu drwy gamau gorfodi?
Gellir ond defnyddio arian a godir drwy orfodaeth i wella:
- priffyrdd a ffyrdd,
- yr amgylchedd, a
- gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.