Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Coed

​​​​Mae sawl mantais i gael coed mewn ardaloedd trefol. Maen nhw’n gallu:

  • amsugno llygredd, 
  • cynhyrchu ocsigen,
  • creu cynefinoedd i fywyd gwyllt,
  • gwella ein lles corfforol a meddyliol, a
  • chyflenwi ffynhonnell gynaliadwy o gompost o ddail. 


Sut rydym yn cynnal coed


Rydym yn rheoli ac yn cynnal dros 12,000 o goed ar strydoedd Caerdydd.  Bob 3 blynedd rydym yn cynnal arolygiad i sicrhau nad yw eu hiechyd a'u strwythur yn peri unrhyw risg i'r cyhoedd. 

Byddwn ond yn tocio neu'n cwympo (torri) coeden os yw'n afiach, yn farw, neu'n peri risg i'r cyhoedd.

Ni fyddwn yn tocio nac yn cwympo coeden os:

  • yw’n gollwng dail, blagur, sudd, aeron, ffrwyth, neu hadau.
  • yw’n blocio golau naturiol neu olygfeydd.
  • ystyrir ei fod yn rhy fawr neu'n rhy dal.
  • yw’n ymyrryd â gwifrau ffôn neu erialau, dysglau lloeren neu baneli solar. Open Reach sy’n berchen ar y llinellau ffôn, a nhw sydd â’r hawl i docio unrhyw goed a allai fod yn ymyrryd â'r gwasanaeth ffôn. Cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth.
  • yw’n hongian dros eiddo preifat. Gall perchennog yr eiddo dorri'r canghennau yn ôl i ffin ei eiddo, oni bai ei fod yn byw mewn ardal gadwraeth neu fod y goeden wedi'i diogelu gan Orchymyn Cadw Coed (GCC). Os ydych chi'n byw mewn ardal gadwraeth neu os yw'r goeden wedi'i diogelu, bydd angen i chi gael caniatâd gan yr adran gynllunio​.  
  • yw ei wreiddiau yn ymestyn i mewn i eiddo preifat. Gall perchennog yr eiddo dorri'r gwreiddiau yn ôl i ffin ei eiddo, oni bai ei fod yn byw mewn ardal gadwraeth neu fod y goeden wedi'i diogelu gan Orchymyn Cadw Coed (GCC). Os ydych chi'n byw mewn ardal gadwraeth neu os yw'r goeden wedi'i diogelu, bydd angen i chi gael caniatâd gan yr adran gynllunio. 

Rhoi gwybod am broblem gyda choeden

Dywedwch wrthym am broblem gyda choeden mewn parc neu fan gwyrdd. 

Gallwch hefyd ddweud wrthym os yw coeden yn:

  • blocio palmant,
  • yn bargodi’n isel dros y ffordd, neu
  • yn achosi perygl baglu.

Rhoi gwybod am broblem coeden

Ffôn: 029 2233 0235


Argyfyngau

Os yw coeden wedi cwympo ar y ffordd neu os yw'n risg uniongyrchol i'r cyhoedd, ffoniwch Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088. 

Mae Cysylltu â Chaerdydd yn delio ag argyfyngau yn unig. Defnyddiwch y ffurflen ar-lein ar gyfer problemau eraill.​


Ardaloedd cadwraeth a GCCau

Mae coed yn cael eu diogelu mewn ardaloedd cadwraeth neu gan Orchmynion Cadw Coed. Os yw coeden wedi’i diogelu, bydd angen i'r adran gynllunio roi caniatâd cyn i goeden gael ei thocio, ei chwympo (torri i lawr) neu gael ei gwreiddiau wedi’u torri'n ôl. Cysylltwch â'r adran gynllunio


Coed ar dir preifat

Ni allwn gymryd unrhyw gamau ar goed sydd ar dir preifat, oni bai eu bod yn effeithio ar y palmant neu ffordd gyhoeddus. Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau gyda choeden ar dir preifat, bydd angen i chi gysylltu â pherchennog yr eiddo i drafod eich pryderon. Cysylltwch â’r Gofrestrfa Tir​ i weld pwy sy’n berchen y tir.​


Ymsuddiant sy’n cael ei achosi gan goed sy'n eiddo i'r cyngor

Os yw eich eiddo yn cael ei effeithio gan ymsuddiant oherwydd coeden sy'n eiddo i'r cyngor, bydd angen i chi gysylltu ag yswiriwr eich eiddo. Gall yswiriwr eich eiddo gysylltu ag adran yswiriant y cyngor.


Bonion coed

Os bydd coeden ar balmant yn cael ei chwympo (torri i lawr), efallai na fyddwn yn gallu plannu un newydd ar unwaith. Mae bonyn byr yn cael ei adael dros dro i nodi lle bydd y goeden newydd yn cael ei phlannu ac i osgoi perygl baglu ar y palmant. 


Perthi uchel

Darllenwch beth i'w wneud os ydych chi’n cael problemau gyda pherthi uchel cyfagos​

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd