Byddwn yn rhoi Gorchmynion Cadw Coed (GCC) ar goed a choetiroedd penodol yng Nghaerdydd i helpu i'w diogelu.
Mae'n anghyfreithlon torri, tocio, dinistrio neu ddifrodi coed sydd dan GCC, oni bai ein bod wedi rhoi caniatâd i chi wneud hynny.
Gwneud cais am ganiatâd
Gallwch anfon y ffurflen wedi’i chwblhau atom drwy’r post neu e-bost.
Rheoli Datblygu (GCC)
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
Os yw'r goeden neu'r coetir yr ydych am weithio arno mewn ardal gadwraeth, gallwch wneud cais am ganiatâd gan ddefnyddio'r un ffurflen.