Os ydych mewn perygl o fod yn ddigartref neu'n adnabod rhywun sydd yn y sefyllfa hon, cysylltwch â ni ar 029 2057 0750. Dyma'r ffordd gyflymaf o gael mynediad i'n gwasanaeth.
Mae'r gwasanaeth yn rhoi cymorth i unrhyw un sy'n wynebu digartrefedd. Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â ni'n ddi-oed.
Rydym yn cynnig help i bobl sydd:
-
Ddigartref ar y stryd
-
Cysgu ar soffas
-
Colli eu teulu neu gartref rhent
-
Mewn perygl o gael eu tŷ wedi’i adfeddiannu.
Ffoniwch ni ar 029 2057 0750 i gael cymorth gan ein tîm beth bynnag fo'ch amgylchiadau.
Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai wedi'i leoli yn Hyb y Llyfrgell Ganolog:
Gwasanaeth Dewisiadau Tai
Hyb y Llyfrgell Ganolog
Yr Ais
Caerdydd
CF10 1FL
Oriau agor
Gweld oriau agor y Gwasanaeth Dewisiadau Tai.
Dydd Llun | 9am i 4:30pm |
Dydd Mawrth | 9am i 4:30pm |
Dydd Mercher | 9am i 4:30pm |
Dydd Iau | 10am i 4:30pm |
Dydd Gwener | 9am i 4pm |
Os oes argyfwng tŷ y tu allan i'r oriau hyn, ffoniwch ein tîm y tu allan i oriau ar 029 2087 3141. Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch y Gwasanaethau Brys.