Darllenwch beth i'w wneud os ydych wedi derbyn Hysbysiad Gorfodi.
Gallwch osgoi camau adennill trwy gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.
Er mwyn ein hatal rhag cymryd camau adennill ac ychwanegu costau pellach, bydd angen i chi dalu'r balans yn llawn, gan gynnwys unrhyw gostau sydd eisoes wedi'u hychwanegu. Os na allwch dalu'r swm ar yr Hysbysiad Gorfodi yn llawn, gallwch drefnu taliad gyda ni.
Gallwch weld ein gwybodaeth gyswllt ar eich hysbysiad. Gallwch hefyd ymweld â'ch Hyb lleol i gael help wrth drefnu taliad.
Os na fyddwch yn gwneud taliad llawn neu'n trefnu ad-daliadau gyda ni, byddwn yn cymryd camau adennill a bydd costau pellach yn cael eu hychwanegu.
Ffioedd gorfodi
£75
| Codir y ffi hon arnoch os na fyddwch yn talu.
Mae'r ffi yn angenrheidiol er mwyn i'ch dyled gael ei throsglwyddo i Asiantau Gorfodi. |
£235
| Codir tâl arnoch os bydd yn rhaid i Asiantau Gorfodi ymweld â chi yn eich eiddo.
Os yw'r ddyled yn fwy na £1,500, codir 7.5% arall arnoch.
|
£110
| Bydd yn rhaid i chi dalu'r ffi hon os bydd yn rhaid i Asiantau Gorfodi dynnu nwyddau o'ch eiddo a'u gwerthu mewn arwerthiant. Os yw'r ddyled yn fwy na £1,500, codir 7.5% arall arnoch.
|
Os yw eich dyled yn cael ei thrin gan un o'n hasiantaethau cysylltiedig, bydd angen i chi gysylltu â nhw i drafod ad-dalu.
Bristow and Sutor Enforcement Agency
Bartleet Road, Washford, Redditch, Worcs, B98 0FL
Ffôn: 033 0390 2010
Asiantaeth Gorfodi Sifil Excel
Marine House, 2 Marine Road, Bae Colwyn, Conwy, L29 8PH
Ffôn: 0330 363 9988
Marston Holdings
Marston, PO BOX 12019, Epping, CM16 9EB
Ffôn: 0333 320 1822
Os yw eich dyled yn cael ei thrin gan Asiant Gorfodi Cyngor Caerdydd, cysylltwch â ni.
Bydd manylion cyswllt yr asiant ar yr Hysbysiad Presenoldeb a adewir yn eich eiddo.
Sut i apelio yn erbyn gwarant
Wedi i chi dderbyn Hysbysiad Gorfodi, rydych wedi colli'r hawl i apelio yn erbyn y drosedd wreiddiol.
Dim ond trwy gyflwyno rheswm pam na wnaethoch chi gyflwyno'r Datganiad Tyst Prydlon (TE9) erbyn y dyddiad ar y Gorchymyn Adfer y gallwch chi wrthwynebu'r cyhuddiad. Gallwch wneud hyn drwy gyflwyno Datganiad Tyst Prydlon (TE7).
Bydd angen i chi lenwi'r ffurflenni TE7 a TE9 a defnyddio'r rhif HTC sy'n dechrau gyda QC.
Gallwch:
ar wefan GOV.UK.
Gallwch hefyd gael copïau o’r ffurflenni drwy gysylltu â'r Ganolfan Gorfodi Traffig.
Ffôn: 0300 123 1059
E-bost: tec@justice.gov.uk
Bydd angen i chi anfon y ffurflenni i’r:
5th Floor
St Katharine's House
21 to 27 St Katharine's Street
Northampton
NN1 2LH
Dylech hefyd gynnwys eich rheswm dros apelio'r cyhuddiad ar y Datganiad Tyst Prydlon (TE9).
Ar y cam hwn, mae pedwar rheswm posibl dros apelio:
Ni chefais yr Hysbysiad i Berchennog neu’r Hysbysiad Tâl Cosb.
Apeliais yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod Lleol i wrthod fy sylwadau, o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r hysbysiad gwrthod, ond heb gael ymateb i fy apêl.
Cyflwynais sylwadau am y tâl cosb i’r awdurdod gorfodi perthnasol o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r Hysbysiad i Berchennog, ond heb gael hysbysiad gwrthod.
Mae'r tâl cosb wedi'i dalu'n llawn.
Os nad oes unrhyw un o'r rhesymau cyfyngedig hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â'r tîm adennill i wneud trefniadau talu. Gallwch weld gwybodaeth gyswllt ar eich hysbysiad.