Ymunwch â’ch llyfrgell leol am ddim a chael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau.
Gallwch wneud hyn ar-lein neu yn unrhyw un o'n Hybiau a llyfrgelloedd.
Gallwch fenthyg llyfrau ac eLyfrau, a defnyddio'r cyfrifiaduron am ddim, ond rydym yn codi tâl am wasanaethau eraill fel benthyca CDs.
Ymuno â'r llyfrgell ar-lein
Pan fyddwch yn ymuno ar-lein, byddwch yn cael ID defnyddiwr i fewngofnodi. Ni fydd angen cerdyn llyfrgell arnoch, ond gallwch gael un yn eich Hyb neu lyfrgell leol o hyd.
Ymuno â'r llyfrgell ar-lein.
Ymuno â'r llyfrgell wyneb yn wyneb
Gallwch ymuno â llyfrgell yn unrhyw un o'n Hybiau a llyfrgelloedd.
Gweld ein rhestr lawn o leoliadau ac amseroedd agor.
Pan fyddwch yn ymuno wyneb yn wyneb, bydd angen i chi ddangos prawf adnabod. Er enghraifft:
- trwydded yrru,
- cerdyn debyd neu gredyd,
- bil trydan, nwy, neu dŵr,
- cyfriflen banc neu gerdyn credyd,
- pasbort, neu
- ID myfyriwr neu gerdyn NUS, gan gynnwys Cerdyn Adnabod Myfyriwr Rhyngwladol (ISIC) a Cherdyn Teithio Ieuenctid Rhyngwladol (IYTC).
Os ydych o dan 16 oed, bydd angen i'ch rhiant neu ofalwr ddangos un math o brawf adnabod a llofnodi'r cais.
Gallwch hefyd ddefnyddio eich cerdyn llyfrgell presennol i ymuno â Llyfrgelloedd Caerdydd os ydych yn aelod o wasanaeth llyfrgell arall yng:
- Nghymru,
- Lloegr, neu
- Ogledd Iwerddon.
Adnewyddu ac eitemau hwyr
Sylwch fod llyfrau yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig ar hyn o bryd, sy'n golygu na fydd dirwyon hwyr fel arfer yn berthnasol. Mae hyn yn rhywbeth dros dro a gallai newid.
Gweld y rhestr lawn o
ffioedd a thaliadau llyfrgell.
Os nad ydych wedi gorffen gyda'r eitem rydych wedi'i benthyg, mae'n bosibl y gallwch ei hadnewyddu, ar yr amod nad yw wedi'i chadw gan rywun arall. Gallwch:
- adnewyddu ar-lein,
- ffonio eich llyfrgell leol i adnewyddu dros y ffôn, neu
- fynd â'r eitem yn ôl i lyfrgell a'i hadnewyddu wyneb yn wyneb.
Bydd angen eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN arnoch os ydych yn adnewyddu ar-lein.
Nid oes dirwyon ar gyfer llyfrau plant, ond dewch â nhw'n ôl atom mor agos i'r dyddiad dychwelyd â phosibl os gwelwch yn dda.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymuno â llyfrgell, llenwch ein ffurflen.
Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy ein ffurflen os ydych wedi anghofio'ch PIN. Nodwch rif eich cerdyn llyfrgell os ydych yn ei wybod.
Cysylltu â ni