Ar 21 Mawrth 2024, cytunodd y Cabinet i'r Cyngor symud ymlaen i'r cam nesaf a chyhoeddi Hysbysiadau Statudol cyfreithiol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau arfaethedig i'r Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae'r hysbysiadau am newidiadau arfaethedig i Ysgol Gynradd Coed Glas, Ysgol Gynradd Greenway ac Ysgol Gynradd Severn yn fyw o 10 Ebrill 2024 ac yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at ac yn cynnwys 7 Mai 2024.
Gweld manylion yr hysbysiadau:
Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.
Sylwer bod yn rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post y sawl sy'n gwrthwynebu.