Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Dod â chynllun datblygu unigol i ben

​​Pan fydd cynllun datblygu unigol (CDU) yn cael ei adolygu, rhaid penderfynu a oes gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol o hyd sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol. 

Os yw pawb sy'n rhan o'r adolygiad yn cytuno y gellir bodloni anghenion y dysgwr o fewn darpariaeth gyffredinol yr ysgol erbyn hyn, yna gellir gwneud penderfyniad i ddod â’u CDU i ben. 

Rydym yn deall y gallai fod gan y dysgwr neu ei riant neu ofalwr bryderon ynghylch dod â’r CDU i ben. Dylech gael eich sicrhau a chael gwybodaeth am gymorth parhaus i ddiwallu anghenion y dysgwr. Er enghraifft, teilwra strategaethau addysgu neu gefnogol. 

Os yw ysgol a gynhelir yn credu nad oes gan y dysgwr ADY mwyach sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol, rhaid i'r ysgol hysbysu'r rhiant neu'r gofalwr am y penderfyniad a'r rhesymau drosto. Dylai hyn fod drwy drafodaeth mewn cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn ysgrifenedig. Bydd yr hysbysiad ysgrifenedig yn amlinellu eich hawl i ofyn i ni ailystyried y penderfyniad. Cyn gofyn i ni ailystyried y penderfyniad, byddem bob amser yn eich annog chi a'r ysgol i gyfarfod eto i geisio datrys unrhyw anghytundeb.

Rhesymau dros ddod â CDU i ben

Mae'r rhesymau dros ddod â’r CDU i ben yn cynnwys: 

  • Mae'r ysgol yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu'r person ifanc ADY mwyach ac nad yw'r penderfyniad hwnnw'n cael ei herio'n llwyddiannus.
  • Mae’r dysgwr yn berson ifanc nad yw’n cydsynio i gynnal y CDU mwyach 
  • Nid yw’r plentyn neu'r person ifanc yn ddysgwr cofrestredig yn yr ysgol mwyach.  
  • Os daw’r plentyn neu'r person ifanc i gael ei gofrestru mewn dau leoliad a bod cyngor yn gyfrifol am y dysgwr.
  • Mae’r dysgwr yn derbyn gofal gan gyngor yng Nghymru.
  • Mae cyngor yn Lloegr yn dechrau cynnal Cynllun Addysg Gofal Iechyd (CAGI).
  • Mae'r dysgwr yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Pryd na ddylid dod â CDU i ben

Ni ddylid dod â CDU i ben:

  • cyn diwedd y cyfnod o 4 wythnos pan fydd rhieni'n gallu gofyn i ni ailystyried, neu
  • os ydym wedi ailystyried y mater ac wedi penderfynu na ddylai'r cynllun ddod i ben.​

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Os yw ysgol wedi penderfynu nad oes gan y dysgwr ADY mwyach a bod y dysgwr neu ei riant neu ei ofalwr yn anhapus gyda'r penderfyniad, byddem yn annog y dysgwr, y rhiant neu'r gofalwr i geisio datrys y mater gyda'r ysgol. Dylech gysylltu â'r Cydlynydd ADY neu ddilyn ein cyngor ar ddatrys anghytundebau​.  

Mae gennych 4 wythnos i ofyn i ni ailystyried penderfyniad yr ysgol. Cyn i ni wneud penderfyniad, rhaid i ni roi gwybod i'r ysgol eich bod wedi gofyn i ni ailystyried a gwahodd sylwadau gan yr ysgol. Mae'r 4 wythnos yn dechrau ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad ysgrifenedig i'r dysgwr a'i riant neu ei ofalwr.

Beth fydd yn digwydd nesaf 

Mae gennym 7 wythnos i ystyried eich cais a gwneud penderfyniad.  Byddwn yn casglu barn y dysgwr a'r rhiant neu'r gofalwr, ac yn gofyn am unrhyw ddogfennau perthnasol. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â’r ysgol, gweithwyr iechyd proffesiynol a’r gwasanaethau plant. 

Byddwn yn cysylltu â chi yn uniongyrchol pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud a bydd hyn yn cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig ar ddiwedd y cyfnod. 

Os ydych yn dal yn anhapus gyda’r penderfyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru. Mae'n rhaid i chi gyflwyno'r apêl o fewn 8 wythnos i'n penderfyniad. Canfod mwy am gyflwyno apêl gyda Thribiwnlys Addysg Cymru​. ​

​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd