Ar ryw adeg yn eu haddysg, bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr angen gofal iechyd byrdymor y gellir ei reoli'n hawdd gan yr ysgol.
Mae nifer fach o ddysgwyr sydd ag angen gofal iechyd sy'n cael effaith hirach, sy'n gofyn am fwy o gynllunio a chymorth. Cynllun gofal iechyd unigol (CGIU) yw hwn. Dylai’r cynllun gofal iechyd sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at addysg lawn sy'n cynnwys mynd ar deithiau ysgol a chymryd rhan mewn addysg gorfforol.
Gweithio fel tîm
Gall cefnogi dysgwyr gyda'u hanghenion gofal iechyd fod mor syml â'u helpu i gymryd cwrs o feddyginiaeth. I eraill, gall fod yn fwy cymhleth. Beth bynnag yw’r anghenion gofal iechyd, mae'n bwysig eich bod yn gweithio fel rhan o dîm gyda’r ysgol a’ch plentyn i gynllunio a pharatoi’r gofal sydd ei angen. Gall y tîm hwn hefyd gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol, fel nyrs arbenigol neu bediatregydd.
- Rhaid i'r dysgwr fod yn ganolog i’r broses bob amser wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt a chynllunio'r gofal y bydd ei angen arnynt yn yr ysgol.
- Dylai ysgolion sicrhau bod eu Polisi Anghenion Gofal Iechyd yn cael ei rannu gyda theuluoedd a'u bod yn cymryd amser i esbonio'r polisi hwn i’r teulu os oes angen.
- Dylai ysgolion nodi prif bwynt cyswllt y gallwch chi a'ch plentyn ei ddefnyddio i drafod eu hanghenion gofal iechyd a newid y cynllun os oes angen.
- Ni ddylai ysgolion anwybyddu barn rhieni, gofalwyr na dysgwyr, nac unrhyw gyngor gofal iechyd a roddir i'w helpu i ddiwallu anghenion y dysgwyr.
- Dylai ysgolion gydweithio gydag unrhyw weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd yn gysylltiedig â’r plentyn, a sicrhau bod digon o staff sydd wedi cael eu hyfforddi i gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd. Os oes angen hyfforddiant i gefnogi'r anghenion gofal iechyd (e.e. tiwbiau bwydo) bydd tîm priodol y GIG yn darparu hyn.
Creu cynllun gofal iechyd unigol (CGIU)
Os oes gan eich plentyn anghenion gofal iechyd, nid yw o reidrwydd yn golygu bod angen cynllun gofal iechyd unigol (CGIU) arno. Dylid rhoi CGIUau ar waith os oes gan eich plentyn anghenion gofal iechyd sy'n gofyn am gymorth yn ystod y diwrnod ysgol.
Dylai CGIU nodi'r hyn sydd ei angen i gefnogi anghenion gofal iechyd eich plentyn tra byddant yn yr ysgol. Gallai hyn fod yn gymorth neu ymyrraeth reolaidd i gynnal cyflwr neu pan fydd risg uchel y gallai sefyllfa o argyfwng ddigwydd.
Dylid ysgrifennu'r CGIU gyda chymorth gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os oes angen. Dylai'r CGIU fod ar gael yn hawdd i unrhyw un y gallai fod angen cyfeirio ato, ond yn gyfrinachol ac yn sensitif i safbwyntiau eich plentyn.
Rhoi meddyginiaeth
Mae'n rhaid i chi ddarparu unrhyw feddyginiaeth a restrir yn y CGIU. Mae’n rhaid i’r holl feddyginiaeth:
- fod â dyddiad defnyddio cyfredol,
- bod wedi ei labelu'n gywir gyda label gwreiddiol y fferyllfa ar y cynhwysydd cywir, a
- chynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer dos, gweinyddu a storio.
Lle bo'n bosibl, dylech roi meddyginiaeth i'ch plentyn yn y cartref, y tu allan i oriau ysgol. Eich cyfrifoldeb chi yw gwaredu unrhyw feddyginiaeth ddiangen. Bydd ysgolion yn anfon unrhyw feddyginiaeth y mae ei dyddiad defnyddio wedi mynd heibio neu nad oes ei hangen mwyach gartref.
Rhannu gwybodaeth gofal iechyd
Gall rhannu gwybodaeth gofal iechyd fod yn fater sensitif a rhaid i chi sicrhau eich bod chi a'ch plentyn yn hapus gyda phwy a sut mae'r wybodaeth hon yn cael ei rhannu.
Os nad ydych eisiau i’r wybodaeth gael ei rhannu, mae'n bwysig eich bod yn siarad â'r ysgol er mwyn dod i gytundeb.
Os oes unrhyw gyfyngiadau ar rannu gwybodaeth, gallai effeithio ar allu'r ysgol i gefnogi eich plentyn yn ddiogel.
Canllawiau ychwanegol yn yr ysgol
Wrth ofalu am eich plentyn yn yr ysgol, mae'n annerbyniol i'r ysgol:
- atal eich plentyn rhag mynychu’r ysgol, oni bai bod tystiolaeth y byddai'n debygol o achosi niwed i'r plentyn neu i eraill.
- ei wneud yn ofynnol i chi fynychu teithiau ysgol neu unrhyw weithgareddau oddi ar y safle i roi meddyginiaeth neu ddarparu cymorth. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r toiled.
- atal eich plentyn rhag defnyddio anadlyddion neu unrhyw feddyginiaeth arall.
- atal plant rhag yfed, bwyta neu fynd i’r toiled neu gael egwyl pan fo angen hyn arnynt i reoli eu hanghenion gofal iechyd. Ni ddylai’r ysgol fyth ofyn i’ch plentyn adael y gweithgaredd neu’r ystafell ddosbarth os oes angen iddynt gymryd meddyginiaeth nad yw’n bersonol neu i fwyta bwyd.