Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cofrestru ar gyfer e-filio

​​Os byddwch yn cofrestru ar gyfer e-filio, byddwch yn cael eich biliau’n electronig yn hytrach nag ar ffurf papur. Mae hyn yn golygu y gallwch weld eich biliau ar adeg sy’n gyfleus i chi.
 
Byddwch hefyd yn derbyn negeseuon atgoffa neu hysbysiadau terfynol yn electronig. 

Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif treth gyngor ar-lein​ i gofrestru. 

Bydd angen eich rhif cyfrif 8 digid arnoch.  Gellir dod o hyd i hwn ar eich bil treth gyngor.  

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'ch enw cyntaf, eich enw olaf, a'ch cod post yn union fel y maen nhw ar eich bil.

Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, gallwch ddewis derbyn e-filiau yn y dyfodol. 

Yn anffodus, os yw eich cyfrif treth gyngor yn enw cwmni neu asiant eiddo, ni fyddwch yn gallu cael mynediad i wybodaeth trwy’r gwasanaeth treth gyngor ar-lein.​
Defnyddiwch y ffurflen gyswllt treth gyngor​ i gyflwyno eich ymholiad yn lle.​​

Cofrestru ar gyfer e-filio

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd