Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Caerdydd ar Waith

Caerdydd ar Waith yw’r asiantaeth recriwtio fewnol ar gyfer amrywiaeth o swyddi yng Nghyngor Caerdydd.

Mae swyddi gweigion rhan amser a llawn amser ar gael i’r ymgeiswyr iawn.

Os oes gennych unrhyw sgiliau iaith gymunedol, rydym yn aros i glywed gennych. 

Ydych chi’n newydd i waith swyddfa neu eisiau ail-sgilio, neu awydd dechrau eich gyrfa mewn gwaith gofal? Yna gall Caerdydd ar Waith ddod o hyd i’r rôl i chi. 

Mae’r swyddi’n amrywio o gymorth wyneb yn wyneb i waith gofal, yn ogystal â swyddi mewn swyddfa.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen gais a threfnu asesiad*, ffoniwch ni ar 029 2087 3087, ewch i wefan Caerdydd ar Waith​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd neu e-bostiwch CaerdyddArWaith@caerdydd.gov.uk​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

*Bydd asesiadau’n profi sgiliau gweinyddol safonol fel rhesymu ariannol, gallu teipio a’ch arddull ar y ffôn. Mae Cyngor Caerdydd yn ymrwymedig i hyrwyddo cyfle cyfartal ac amrywiaeth mewn cyflogaeth ac wrth ddarparu gwasanaeth. Felly, os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol cysylltwch â ni ac fe allwn drafod addasiadau gyda chi.


Cysylltu â ni



029 2087 3087​

​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd