Rydym yn cyflwyno casgliadau ailgylchu ar wahân ar draws y ddinas.
Byddwn yn darparu'r cynwysyddion sydd eu hangen arnoch ynghyd â thaflen wybodaeth yn esbonio'r cynllun. Fe welwch y sachau y tu mewn i'r cadi.
Unwaith y bydd y casgliadau ar wahân yn dechrau ar gyfer eich eiddo, ni fyddwn yn casglu bagiau ailgylchu gwyrdd mwyach ac ni fyddant ar gael gan stocwyr.
Ardaloedd sy'n newid i ailgylchu ar wahân o 16 Gorffennaf
Os ydych chi'n byw yn yr ardaloedd hyn, byddwn yn darparu'r cynwysyddion o 10 Mehefin ymlaen:
- Adamsdown
- Caerau
- Dwyrain y Mynydd Bychan
- Llys-faen
- Ystum Taf
- Pen-y-lan
- Pontprennau
- Tredelerch
- Sain Ffagan
- Tongwynlais
- Yr Eglwys Newydd
- Trelái
- Gabalfa
- Gorllewin y Mynydd Bychan
- Llandaf
- Pentyrch
- Radur
- Rhiwbeina
- Trowbridge
Byddwn yn casglu eich sach goch yn wythnosol.
Mae’r sach goch ar gyfer cynwysyddion, fel poteli plastig, tybiau a hambyrddau a chaniau neu duniau.
Mae’r eitemau y gallwch eu rhoi yn y sach goch yn cynnwys:
- poteli pethau ymolchi plastig, fel siampŵ a jel cawod,
- poteli glanhau plastig, fel poteli cannydd a chwistrellwyr,
- poteli diodydd plastig, fel poteli llaeth, poteli dŵr a photeli diodydd meddal,
- cynwysyddion plastig, fel cynwysyddion ffrwythau, potiau iogwrt a phecynnau cacennau
- cartonau a chaeadau cludfwyd plastig,
- aerosolau, fel chwistrelli diaroglyddion,
- caniau diodydd metel, fel caniau cwrw a diodydd meddal,
- tuniau bwyd metel, fel tuniau ffa a chawl,
- Tetra Pak, a
- ffoil a chartonau ffoil.
Mae eitemau sydd ddim yn mynd yn y sach goch yn cynnwys:
- bagiau siopa plastig,
- Plastigau meddal, fel cling film neu orchudd plastig,
- deunydd lapio caws neu fagiau bara,
- pecynnau creision,
- pacedi bwyd anifeiliaid anwes,
- pecynnau blister plastig, fel ar gyfer meddyginiaethau,
- brwshys dannedd neu diwbiau past dannedd,
- raseli neu lafnau raseli,
- tanwyr nwy gwag,
- poteli nwy gwag,
- plastigau caled, fel teganau plant,
- potiau planhigion, a
- cynwysyddion Tupperware.
Byddwn yn casglu eich sach las bob wythnos.
Mae eitemau y gallwch eu rhoi yn y sach las yn cynnwys:
- cerdyn a bocsys cardbord,
- cartonau wyau,
- tiwbiau papur tŷ bach,
- cocsys grawnfwyd,
- bocsys past dannedd,
- papur, papurau newydd a chylchgronau,
- amlenni a llythyrau,
- papur argraffydd a phapur siwrwd.
Gellir rhoi papur siwrwd mewn bag siopa ar wahân a'i roi ar ben y sach las i'w gasglu.
Mae eitemau sydd ddim yn mynd yn y sach las yn cynnwys:
- cartonau bwyd a diod, fel Tetra Pak,
- polystyren,
- ffilm neu becynnu plastig,
- papur wal,
- papur lapio, neu
- Hancesi papur, tywelion papur a phapur cegin.
Byddwn yn casglu eich cadi glas bob pythefnos ar yr un wythnos â'ch gwastraff cyffredinol.
Mae eitemau y gallwch eu rhoi yn y cadi glas yn cynnwys:
- poteli gwydr fel poteli cwrw, poteli gwin a photeli diodydd ysgafn, a
- jariau gwydr, fel jariau saws a bwyd babi.
Mae eitemau sydd ddim yn mynd yn y cadi glas yn cynnwys:
- cerameg neu tsieina,
- gwydrau yfed,
- gwydr wedi torri,
- paneli gwydr,
- bylbiau golau, neu
- pyrex.
Os na allwch storio neu gario’r sachau a roddwyd i chi, bydd rhai llai ar gael mewn rhai hybiau o 10 Mehefin 2024.
Gallwch eu casglu o:
- Hyb Trelái a Chaerau
- Hyb Grangetown
- Hyb Gabalfa ac Ystum Taf
- Llyfrgell Pen-y-lan
- Hyb y Powerhouse
- Hyb Radur
- Hyb Rhiwbeina
- Hyb Tredelerch
- Hyb Star
- Hyb Llaneirwg
- Llyfrgell yr Eglwys Newydd
Os oes angen sach ychwanegol neu newydd arnoch, gallwch eu casglu o rai Hybiau.
Os oes angen cadi ychwanegol neu newydd arnoch, gallwch archebu ar-lein.
Dim ond ar ôl i'ch ardal symud i'r casgliadau newydd y byddwch yn gallu casglu sachau a chadis a'u harchebu ar-lein.
- Gwahanwch eich ailgylchu i'ch cynwysyddion newydd.
- Peidiwch â gorlenwi eich sachau.
- Sicrhewch bod y cynwysyddion ar gau gan ddefnyddio'r Velcro ar y fflap a'r ddolen.
Rhaid i'ch gwastraff gael ei roi allan i'w gasglu erbyn 6am ar ddiwrnod eich casgliad, neu ddim cynharach na 4:30pm y diwrnod cyn eich casgliad.
Rydym yn defnyddio cerbydau gyda dwy adran ar wahân ar gyfer eich ailgylchu. Mae eitemau o'r sach las yn mynd i un ochr y cerbyd ac eitemau o'r sach goch yn mynd i'r llall. Mae gennym gerbyd gwahanol i gasglu’r ailgylchu gwydr.
Byddwch yn ymwybodol bod ein cerbydau weithiau'n mynd am wasanaeth neu MOT. Gall hyn olygu bod yn rhaid i ni ddefnyddio cerbyd gwastraff cyffredinol i gasglu eich ailgylchu. Gallwn eich sicrhau nad yw hyn yn cael effaith negyddol ar ansawdd y deunyddiau ailgylchu rydych chi wedi'u gwahanu i'w casglu.