Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 - Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Rydym yn datblygu llwybr beicio newydd o ganol y ddinas i ardal Parc y Rhath. 

Bydd y llwybr yn rhoi buddion allweddol fel: 

  • hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy i’r ysgol, 
  • cyflogaeth, a  
  • chysylltiadau â thrafnidiaeth gyhoeddus. 


Bydd y llwybr yn cysylltu â llwybrau beicio eraill yn y dyfodol.

Bydd Cam 1 yn darparu beicffordd ar wahân newydd a llwybrau troed wedi'u huwchraddio ar Gae Rec y Rhath rhwng cyffordd Wellfield Road ac Alder Road. 

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys: 

  • Gwelliannau i gyffordd Wellfield Road, Marlborough Road, Penylan Ro​ad, a Ninian Road drwy uwchraddio mannau croesi, croesfan feicio a newidiadau i gyfnodedd signalau traffig. 
  • Disodli'r rhwystrau culhau’r ffordd ar Tŷ Draw Road gyda 4 croesfan i gerddwyr â ramp.
  • Gwelliannau i safleoedd bws a safle bws newydd ar Ninian Road. 
  • Newidiadau i faes parcio Canolfan Gymunedol Penylan i wneud lle ar gyfer y beicffordd. 
  • Gwella'r groesfan sebra ar gyffordd Pen-y-Wain Road a throedffordd a rennir i gerddwyr a beicwyr tuag at Ysgol Gynradd Parc y Rhath. 
  • Uwchraddio'r llwybr troed o amgylch y cae chwarae a'r offer campfa.
  • Newidiadau i'r groesfan sebra ar gyffordd Alder Road ac atal traffig drwodd ar Alder Road. 


Bydd y gwaith yn dechrau ddiwedd Chwefror 2024. 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y contractwr ar wefan Knights Brown neu drwy e-bostio talktous@knightsbrown.co.uk.

Gwybodaeth ychwanegol 

Dysgwch fwy am y cynllun. 

Gallwch weld y lluniau manwl o’r cynllun (7mb PDF). Gall y lluniadau newid oherwydd newidiadau i’r dyluniad ac amodau'r safle.​

Gwyddom fod rhai trigolion yn poeni am y newidiadau i symudiadau traffig ar y gyffordd hon.   

Rydym yn gwneud y newidiadau i wella diogelwch i gerddwyr a beicwyr.  Mae hyn yn cynnwys ychwanegu cam golau traffig newydd ar gyfer beicwyr. 

Er mwyn lleihau effaith y cam ychwanegol ar y goleuadau traffig, rydym wedi edrych ar wahanol opsiynau ac wedi penderfynu gwahardd troi i’r dde:

  • o Heol Wellfield ar i Heol Marlborough, ac 
  • o Heol Marlborough i Heol Pen-y-lan. 

Mae hyn yn golygu y gallwn gynnal 4 cam golau traffig ac osgoi ciwiau hirach ac oedi wrth y gyffordd. 

Pe bai'r symudiadau presennol yn cael eu cadw ynghyd ag ychwanegu’r camau goleuadau a gwelliannau ar y droedffordd i gerddwyr, byddai'n cael effaith negyddol ar draffig ac ar gerddwyr wrth y gyffordd ac o amgylch yr ardal.

Cynhaliwyd arolygon traffig gennym ym mis Chwefror 2024 ac maent yn debyg i arolygon blaenorol a gynhaliwyd. Rydym yn credu y bydd yr effaith yn fach iawn.  Fodd bynnag, byddwn yn monitro’r sefyllfa. 

Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd o wella teithio llesol o amgylch Ysgol Gynradd Marlborough.
  

Bydd giât y fynedfa bresennol yn cael ei lledu i wella mynediad ar gyfer ein cerbydau cynnal a chadw parciau. 

Er nad yw'r gatiau a'r rheiliau yn strwythurau rhestredig, mae iddynt werth o ran treftadaeth. Byddwn yn sicrhau: 
 
  • y gwneir y newidiadau mor ofalus a chydymdeimladol â phosibl, ac
  • y defnyddir cymaint o'r defnyddiau gwreiddiol ag y bo modd. 


Bydd y gwaith yn cryfhau'r rheiliau yn y lleoliad hwn a bydd y plât enw hanesyddol yn cael ei symud ychydig.  

Yn ystod y cyfnod adeiladu, bydd nifer y caeau chwaraeon yn lleihau o 4 i 3.  Unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau, byddant yn mynd yn ôl i 4 cae. Fodd bynnag, byddant mewn trefniant gwahanol i'r cynllun presennol a’r un dros dro. 

Mae'n rhaid i ni leihau nifer y caeau er mwyn sicrhau: 

  • bod digon o le ar gyfer adeiladu a defnydd y cyhoedd, ac
  • y gellir cwblhau'r gwaith adeiladu yn ddiogel. 


Byddwn yn troi'r caeau, fel yr ochrau yn eich hwynebu. Dim ond digon o le i 3 chae sydd yn y cynllun hwn yn ystod y gwaith adeiladu. 

Rydym wedi ymgynghori â'r Adran Parciau, ac rydym yn hyderus y bydd digon o le i ateb y galw.  

Byddwn yn dod â'r pedwerydd cae yn ei ôl cyn gynted â phosibl.​


Nid ydym yn torri unrhyw goed o ganlyniad i'r cynllun hwn. 

Ar ôl asesiad annibynnol, byddwn yn gwneud gwaith tocio ar rai coed yn y parc, gan gynnwys Ffordd Ninian. Mae hyn yn gyfuniad o:

  • gael gwared ar ganghennau marw sydd mewn perygl o gwympo, a
  • thorri canghennau isaf coed, sy'n cadw gwaelod canopi'r goeden yn glir o lwybrau troed.



Mae'r rhesymau dros docio yn ymwneud ag:

  • iechyd coed, ac
  • iechyd a diogelwch y cyhoedd.​




Mae angen i ni hefyd dynnu 3 coeden. Mae gan y coed hyn ddiffygion a allai beri risg i ddiogelwch y cyhoedd os cânt eu gadael yn eu lle. Mae'r map diweddariadau coed yn dangos lleoliadau'r coed hyn ac yn disgrifio eu problemau mewn mwy o fanylder unigol.

Sylwch nad yw ein gwaith cynnal a chadw sy'n ymwneud â thynnu’r coed hyn o ganlyniad i'r beicffordd newydd.

​​
Fe wnaethom ddechrau’r gwaith hwn ar 15 Ebrill 2024.

Rydym nawr yn bwriadu plannu 3 coeden newydd yn ystod y tymor plannu.

Y 3 coeden arfaethedig yw Alnus Glutinosa sy'n ffynnu mewn amodau gwlyb. Dewiswyd y rhain fel rhan o waith plannu SDCau. Byddwn yn plannu 2 ohonynt mewn pant arfaethedig ynghyd â phlannu SDCau arall.​



Aseswyd nifer fach o lasbrennau yng ngogledd-orllewin y parc hefyd, oedd i gael eu hadleoli. Cadarnhaodd hyn nad oedd y glasbrennau yn fyw mwyach. Rydym wedi tynnu’r rhain ac yn bwriadu darparu glasbrennau newydd yn y dyfodol pan fydd amodau'n caniatáu.​


Gallwch weld y diweddariadau coed (274kb PDF).​
Mae'r cynllun yn newid mewn rhai rhannau o'r cynllun. Gallwch weld yr ardaloedd yr effeithir arnynt ar ddarlun y cynllun (382kb PNG)​

Ardal A

Ni fyddwn yn ehangu nac yn ailwynebu'r llwybr troed wrth ymyl yr ardal chwarae oherwydd gwreiddiau coed.  Mae'r llwybr troed presennol mewn cyflwr da, felly nid oes angen unrhyw waith adfer.  

Ardal B

Ni fyddwn yn rhoi llwybr troed newydd o'r maes parcio i'r maes chwarae oherwydd gwreiddiau coed. Byddwn yn dal i wella'r mynediad presennol, felly ni fydd anfantais i ddefnyddwyr. 

Ardal C

Rydym yn cynnig ardal parcio beiciau newydd. Bydd hyn yn rhoi lleoliad cyfleus i ddefnyddwyr adael eu beiciau wrth iddynt ddefnyddio'r cae chwarae. 

Ardal D

Rydym wedi ailalinio’r cwrbyn ac ailwynebu ar Heol Wellfield. Bydd yr arwyneb yr un fath â'r arwyneb presennol (palmant fflag concrit). 

Ardal E 

Rydym wedi newid y gwaith i ailadeiladu’r ffordd gerbydau ac ailwynebu’r droedffordd y tu ôl i'r ganolfan gymunedol. Bydd y gorffeniad yn aros yn darmac. 

Ardal F

Byddwn yn newid y rhan hon o'r droedffordd i darmac gan fod y palmant presennol mewn cyflwr gwael, yn anwastad ac wedi’i ddifrodi. Bydd y tarmac yn cyfateb i’r deunydd palmant hyblyg du arfaethedig o amgylch y goeden a'r droedffordd bresennol ar Bangor Street a bydd yn gwneud yr arwyneb yn wastad. Byddwn yn defnyddio unrhyw balmant penwn nad yw wedi’i ddifrodi i atgyweirio darnau mwy o balmant. 

Ardal G

Byddwn yn cadw'r droedffordd ar Pen-y-Wain Place fel carreg penwn. Mae hyn er mwyn cynnal cymeriad y stryd. ​
​ ​


Cysylltu â ni​


Gallwch gysylltu â ni ar e-bost neu drwy’r post. 


Tîm Rhaglen Drafnidiaeth
Ystafell 301, Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW​

​​​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd