Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Telerau ac amodau trwydded barcio ddigidol

​​​​​​​​Rhaid i berchennog neu deiliad y Drwydded ddarllen y telerau a’r amodau hyn a chytuno arnynt. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i addasu’r telerau a’r amodau hyn ar unrhyw adeg.​​​

​Dilysrwydd trwyddedau


1. Dim ond tra eu bod yn cael eu defnyddio gan berson sy'n byw yn yr eiddo y gwneir y cais ar ei gyfer y mae trwyddedau preswylwyr yn ddilys a phan fo'r cerbyd wedi'i gofrestru neu ei gadw yn yr un eiddo.

2. Caniateir uchafswm o 2 drwydded preswylwyr fesul aelwyd ar unrhyw un adeg. Os oes gan rywun drwyddedau papur ac e-drwyddedau digidol, dim ond y ddwy drwydded gyntaf a gyhoeddir fydd yn ddilys.


3. Ni ellir trosglwyddo trwyddedau (er enghraifft o un person i’r llall, neu os byddwch yn symud cyfeiriad). Rhaid i chi ganslo eich trwydded drwy eich cyfrif MiPermit Caerdydd os byddwch yn symud eiddo. Fel arall gall y Cyngor ei chanslo heb rybudd ac ni chewch ad-daliad.

4. Rhaid rhoi rhif cofrestru unrhyw gerbyd enwebedig yn gywir ac yn llawn. Bydd unrhyw wallau yn annilysu'r drwydded.

5. Dim ond rhwng y dyddiadau a'r amseroedd a nodir ar y drwydded y mae trwydded yn ddilys. Gall negeseuon atgoffa adnewyddu gael eu hanfon allan o gwrteisi ond nid ydynt yn ofyniad cyfreithiol. Chi sy’n gwbl gyfrifol am adnewyddu trwydded. Os nad oes gan gerbyd drwydded, rhaid dod o hyd i fan parcio amgen a chyfreithlon.​

6. Nid yw trwyddedau'n ddilys tra bod gan gerbyd 3 neu fwy o Hysbysiadau Tâl Cosb (HTC) heb eu talu yng Nghaerdydd. Rydym yn diffinio HTC heb ei dalu fel HTC sydd wedi symud y tu hwnt i'r cam lle gellir cyflwyno sylwadau.

7. Mae trwyddedau’n parhau’n eiddo digidol i’r Cyngor, a gall y Cyngor ganslo trwydded ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm pan benderfyna fod gwneud hynny’n rhesymol angenrheidiol. Rhoddir hysbysiad i ddeiliad y drwydded.

Defnyddio trwyddedau

8. Gall trwyddedau coch gael eu defnyddio ar gyfer mannau parcio Deiliaid Trwydded Preswylwyr yn Unig neu Ddeiliaid Trwydded Preswylwyr Defnydd a Rennir, a hynny ar y stryd/​​​oedd a enwir ar y drwydded. Bydd arwyddion rheoleiddio yn yr ardal yn dangos ble y gallwch ac na allwch barcio, a rhaid cydymffurfio â hwy bob amser.

9. Nid yw trwyddedau byth yn gwarantu lle parcio.

10. Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Swyddog Heddlu, SCCH neu Swyddog Gorfodi Sifil (fel cyfarwyddyd i symud eich cerbyd), hyd yn oed os oes gan eich cerbyd drwydded ddilys.

11. Gall y Cyngor atal y defnydd o unrhyw fan parcio lle bo angen. Bydd arwyddion atal melyn yn dangos lle mae parcio wedi'i atal dros dro, ac nid yw trwydded yn ddilys mewn man parcio lle mae parcio wedi'i atal.

Ad-daliadau

12. Darperir ad-daliadau am unrhyw fisoedd llawn sy'n weddill ar drwyddedau nad oes eu hangen mwyach. Codir ffi weinyddol o £5.00 am bob ad-daliad o'r fath.

Gorfodi trwyddedau

13. Ni ellir ailwerthu na chyfnewid trwyddedau na’u rhoi i unrhyw un er budd neu wobr bersonol neu ariannol.

14. Rhaid i chi sicrhau y cydymffurfir â'r telerau ac amodau hyn. Fel arall, gallai Hysbysiad Tâl Cosb (HTC - dirwy barcio) gael ei chyflwyno.

15. Gall camddefnyddio neu ddefnyddio trwyddedau'n dwyllodrus hefyd arwain at atal neu ganslo cyfrif perchennog y drwydded, canslo unrhyw drwyddedau sy'n gysylltiedig â'r cyfrif hwnnw a gwrthod ceisiadau am drwyddedau newydd.​​

Trwyddedau parcio ymwelwyr

1. Rhoddir trwyddedau ymwelwyr i’ch galluogi i gofrestru cerbydau sy'n cael eu defnyddio gan ymwelwyr â'ch eiddo ar gyfer arhosiad/sesiwn parcio ymwelwyr.

2. Ni roddir trwyddedau ymwelwyr ar gyfer cerbydau sy'n eiddo i breswylwyr neu sy'n cael eu defnyddio gan breswylwyr, i alluogi parcio gan gymudwyr neu am unrhyw gyfnod nad yw gyrrwr y cerbyd yn ymweld â'ch cartref yn bersonol.

3. Bydd eich sesiynau ymwelwyr yn caniatáu i’ch ymwelwyr barcio mewn mannau parcio Deiliaid Trwydded Preswylwyr yn Unig neu Ddeiliaid Trwydded Preswylwyr Defnydd a Rennir, a hynny ar y stryd/oedd a enwir ar y drwydded. Bydd arwyddion rheoleiddio yn yr ardal yn dangos ble gall ac na all eich ymwelydd barcio, a rhaid cydymffurfio â hwy bob amser.

4. Nid yw sesiynau ymwelwyr yn berthnasol mewn mannau talu ac arddangos/aros, hyd yn oed os caniateir i ddeiliaid trwydded preswylwyr barcio yno fel arfer.

5. Nid yw lle parcio byth wedi’i warantu.

6. Wrth gofrestru cerbyd ymwelydd ar gyfer sesiwn parcio, rhaid nodi ei farc cofrestru cerbyd yn llawn ac yn gywir. Bydd unrhyw wallau yn annilysu sesiwn y drwydded.

7. Ni ellir cynnig ad-daliad ar gyfer sesiynau ymwelwyr.

8. Ni ellir ailwerthu na chyfnewid trwyddedau na sesiynau, na’u rhoi i unrhyw un er budd neu wobr bersonol neu ariannol.

9. Rhaid sicrhau y cydymffurfir â'r telerau ac amodau hyn. Fel arall, gallai Hysbysiad Tâl Cosb (dirwy barcio) gael ei chyflwyno. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich ymwelwyr yn gwbl ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'r telerau ac amodau hyn.

10. Bydd camddefnyddio neu ddefnyddio trwyddedau ymwelwyr yn dwyllodrus yn arwain at gamau gorfodi yn erbyn perchennog y drwydded. Gallai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, atal neu ganslo cyfrif perchennog y drwydded, canslo unrhyw drwyddedau sy'n gysylltiedig â'r cyfrif hwnnw, gwrthod ceisiadau am drwyddedau newydd neu erlyniad troseddol. ​​​ ​

© 2022 Cyngor Caerdydd