Os ydych chi'n byw mewn stryd 'goch', cewch barcio mewn:
- mannau trwyddedau i breswylwyr, a
- mannau defnydd a rennir.
Mae hyn yn berthnasol yn y stryd a enwir ar y drwydded yn unig. Ni chewch ddefnyddio'ch trwydded goch i barcio ar unrhyw stryd arall.
Os ydych yn byw mewn ardal 'glas', mae hyn yn golygu eich bod yn byw mewn ardal parcio â thrwydded nad yw'n rhan o barth.
Ardaloedd parcio â thrwydded yw ffyrdd lle nad oes mannau wedi'u marcio, ond mae arwyddion rheoleiddio mawr ar ddechrau'r ffordd. Bydd angen trwydded ddilys ar unrhyw gerbyd sy'n parcio heibio'r arwyddion hyn.
Gan nad oes marciau ffordd mewn ardaloedd parcio â thrwydded, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr arwyddion wrth fynedfa'r ardal barcio i weld pa drwydded y bydd ei hangen arnoch i chi barcio yno.
Mae hyn yn berthnasol i’r ardal parcio â thrwydded a enwir ar y drwydded yn unig. Ni chewch ddefnyddio'ch trwydded las i barcio mewn ardal parcio â thrwydded arall.
Os ydych chi'n byw mewn ardal parthau parcio, cewch barcio mewn:
- mannau trwyddedau i breswylwyr,
- mannau i ddeiliaid trwydded yn unig, neu
- mannau defnydd a rennir.
Mae hyn yn berthnasol yn eich parth parcio chi yn unig.
Edrychwch ar arwyddion stryd i gael gwybod:
- pa drwydded sy'n gymwys, ac
- amseroedd y mae cyfyngiadau ar waith.
Gallwch
ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y parthau parcio.