Rydym yn hysbysu preswylwyr ynghylch cynlluniau i wneud newidiadau i’r briffordd ar Bronllwyn, Pentyrch, y tu allan i Ysgol Gynradd Pentyrch.
Mae rhwystrau culhau’r ffordd yn bresennol ger yr ysgol sy'n lleihau llif traffig dwy ffordd i lawr i res sengl. Cynigir tynnu’r nodwedd hon a’i disodli â chroesfan sebra ddyrchafedig.
Gall rhwystrau culhau’r ffordd rwystro llif y traffig. Gallant hefyd arwain at:
- gynhyrfu gyrwyr, ac
- oedi i amser teithio ar fysiau.
Bydd tynnu’r rhwystrau culhau’r ffordd yn gwella dibynadwyedd amseroedd bysus.
Rydym hefyd yn cynnig cael gwared ar y gilfan ar ochr orllewinol y ffordd y tu allan i'r ysgol i greu troedffordd ehangach. Byddwn yn ail-wynebu'r droedffordd ar ochr ddwyreiniol Bronllwyn ac yn cyflwyno cyrbau isel a phalmant botymog, wrth y gyffordd â Heol-y-Bryn.
Bydd y mesurau newydd hyn yn gwella cyfleusterau croesfannau i gerddwyr yn yr ardal a byddant hefyd yn helpu i leihau cyflymder cerbydau ar hyd Bronllwyn. Bydd hyn yn helpu i greu amgylchedd priffyrdd diogelach i bob defnyddiwr, yn enwedig y rhai sy’n mynd i Ysgol Gynradd Pentyrch.
Rydym hefyd yn cynnig cyfyngiadau parcio a llwytho newydd. Bydd y rhain yn gofyn am Orchymyn Rheoli Traffig (GRhT), a fydd yn destun ymgynghoriad ar wahân fel rhan o broses gyfreithiol GRhT.
Cefnogir y gwelliannau hyn gan gronfa Teithio Llesol i Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn ystyried yr holl sylwadau. Er na fyddwn yn gallu darparu ymatebion unigol, byddwn yn ychwanegu'r holl faterion a godwyd at yr adroddiad ymgynghori. Bydd hwn ar gael ar-lein neu drwy gais maes o law.
Gallwch weld yr hysbysiad safle (283kb PDF).
Dweud eich dweud
Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau sydd gennych ynghylch y cynigion. Rydym yn deall y gallai fod gennych awgrymiadau eraill i wella diogelwch ar hyd y llwybr hwn.
Efallai na fyddwn yn gallu darparu ar gyfer newidiadau i'r cynlluniau hyn ar hyn o bryd, ond byddwn yn cofnodi adborth ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol.
Os hoffech wneud unrhyw sylwadau am y cynnig hwn, rhowch wybod i ni erbyn dydd Gwener 5 Gorffennaf.
E-bost: GwefanProjectauTrafnidiaeth@caerdydd.gov.uk
Post:
Prosiectau Trafnidiaeth
Ystafell 301
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
Gwybodaeth ychwanegol am fesurau rheoli traffig
Darganfyddwch beth mae pob term yn ei olygu.
Croesfannau sebra yw’r rhain sydd yn cynnwys bwrdd arafu, neu pan fyddant wedi eu gosod wrth gyffordd ddyrchafedig (naill ai ar ei phen ei hun neu fel rhan o gyfres ehangach o fesurau arafu traffig).
Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i ni reoleiddio'r defnydd o'r briffordd. Mae GRhT yn berthnasol i reoleiddio cyflymder, pwysau, symud a pharcio cerbydau, yn ogystal â rheoleiddio symudiadau cerddwyr a beicio.
Mae hwn yn amrywiad ar y twmpath cyflymder, lle mae brig yr ardal ddyrchafedig dros 2 fetr o led. Mae hyn yn achosi llai o anghysur i deithwyr ar fysus gan fod y codi a’r gostwng wedi’u gwahanu gan yr adran wastad. Weithiau defnyddir byrddau arafu ar y cyd â chroesfannau i gerddwyr i leihau cyflymderau ac i wneud y groesfan yn fwy amlwg i yrwyr.
Mae hwn yn rhan o droedffordd sydd wedi'i ledu. Gallwn ddefnyddio rhwystrau ymwthiol i ail-lunio cyffyrdd, diffinio mannau parcio a lleihau pellteroedd i gerddwyr wrth groesi. Gallant wella gwelededd i bawb.
Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i ni reoleiddio'r defnydd o'r briffordd. Mae GRhT yn berthnasol i reoleiddio cyflymder, pwysau, symud a pharcio cerbydau, yn ogystal â rheoleiddio symudiadau cerddwyr a beicio.