Rydym yn bwriadu gwneud newidiadau i'r groesfan a'r cyffyrdd ar Heol Trelái a Lôn Caerau.
Mae'r cyffyrdd ar Lôn Caerau yn llydan iawn. Mae hyn yn golygu nad oes angen i gerbydau arafu llawer wrth droi i mewn i Lôn Caerau o Heol Trelái.
Bydd y cynllun hwn yn uwchraddio’r hen groesfan sebra.
Byddwn yn cyflwyno bwrdd arafu uchel, fel bod yn rhaid i yrwyr arafu wrth agosáu at y groesfan.
Bydd tynhau'r cyffyrdd ar gyfer cerbydau hefyd yn helpu i'w harafu ac yn gwneud llwybrau troed cysylltiol yn fwy llydan. Bydd hyn yn lleihau pellteroedd croesi i gerddwyr.
Bydd y cynllun yn:
- gwneud llwybrau troed ar Heol Trelái a Lôn Caerau yn fwy llydan,
- uwchraddio'r ynys ganol ar y groesfan sebra,
- annog croesi’n ddiogel a chyfleus,
- uwchraddio goleuadau a goleuadau croesi, a
- chulhau ceg y gyffordd i arafu cerbydau.
Bydd hyn yn cynnig:
- symudiadau arafach a mwy diogel gan gerbydau,
- mwy o ddiogelwch i gerddwyr, yn enwedig plant, a
- gwelededd gwell.
Ariennir y cynllun trwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Gallwch
weld yr hysbysiad safle llawn (292kb PDF).
Adroddiad ar yr ymgynghoriad
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 22 Mawrth 2024 a 12 Ebrill 2024. Mae adroddiad yr ymgynghoriad yn dangos yr adborth a gawsom.
Rydym wedi dod i'r casgliad y byddwn yn bwrw ymlaen â'r cynllun hwn.
Mwy o wybodaeth am fesurau rheoli traffig
Darganfyddwch beth mae pob term yn ei olygu.
Mae'r rhain yn fesurau rheoli traffig ffisegol penodol sy'n gorfodi gyrwyr i arafu. Mae’r rhain yn cynnwys:
- twmpathau ffordd,
- clustogau arafu,
- byrddau arafu,
- rhwystrau culhau’r ffordd,
- rhwystrau igam-ogamu,
- pyrth,
- cylchfannau, a
- nodweddion tebyg eraill.
Datblygiad o'r twmpathau ffordd yw'r rhain.
Mae siâp a lled clustog arafu yn golygu y gall gyrrwr alinio ei gerbyd ag ef. Mae angen iddynt leihau eu cyflymder i wneud hyn.
Mae hyn yn lleihau symudiad i fyny ac i lawr wrth yrru dros y glustog. Mae cerbydau mwy o faint yn elwa yn arbennig yn y modd hwn. Er enghraifft, cerbydau'r gwasanaethau brys neu fysiau gyda theithwyr.
Mae'r rhain yn ardaloedd palmant yng nghanol y ffordd. Ni all cerbydau yrru ar eu traws.
Fel arfer, maent yn cynnwys arwydd 'cadwch i'r chwith' neu folard wedi'i oleuo.
Gellir defnyddio ynysoedd traffig ar gyfer:
- ynys groesi i gerddwyr,
- croesfan groesgam, a
- rheoli symudiadau cerbydau ar gylchfannau a chyffyrdd eraill.
Gall un math arbennig o ynys draffig ymddangos fel cylchfan fach, ond heb unrhyw freichiau i ffyrdd ymyl.
Mae'r rhain yn addas ar gyfer safleoedd sydd â lefelau canolig o alw gan gerddwyr a llif cerbydau, lle na fyddai croesfan pâl yn addas.
Gall y math hwn o groesfan fod o fudd i gerddwyr gan nad oes isafswm amser aros ar gyfer yr hawl i groesi.
Gellir cyfuno croesfannau sebra â rhwystrau ymwthiol. Gallai'r rhain:
- wella gwelededd i yrwyr a cherddwyr,
- lleihau pellteroedd croesi, a
- helpu cerddwyr i ddangos eu bod yn bwriadu croesi ffordd.
Croesfannau sebra yw’r rhain sydd yn cynnwys bwrdd arafu, neu pan fyddant wedi eu gosod wrth gyffordd ddyrchafedig (naill ai ar ei phen ei hun neu fel rhan o gyfres ehangach o fesurau arafu traffig).
Mae hyn pan gaiff rhwystrau ymwthiol eu defnyddio wrth gyffordd. Gallai'r rhain:
- atal cerbydau rhag parcio'n rhy agos at gyffordd,
- gwella gwelededd, a
- darparu parcio a ddiogelir.