Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu cynigion i wella cyffordd Ffordd Patreane a Heol Llanfihangel.
Fel rhan o’r newidiadau hyn, bydd y Gorchmynion Rheoli Traffig (GRhT) presennol yn cael eu diweddaru.
Mae’r cynigion yn y ddogfen hon wedi’u datblygu o ganlyniad i’r datblygiad ar hen safle Coleg Llanfihangel, a’r materion a godwyd ynghylch:
- tagfeydd traffig ac oedi o Ffordd Patreane i Heol Llanfihangel,
- parcio gan gymudwyr ar Ffordd Patreane, a
- phryderon am symudiadau cerbydau wrth y gyffordd.
Nod y cynigion hyn yw lleihau tagfeydd traffig a oedi trwy gyflwyno lonydd traffig troi i’r chwith a throi i’r dde ar wahân a Ffordd Patreane i Heol Llanfihangel.
Gallwch
weld y cynnig llawn yn y pecyn ymgynghori (915kb PDF).
Adroddiad yr Ymgynghoriad
Gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 13 Tachwedd a 4 Rhagfyr 2023.
Mae'r adroddiad ymgynghori yn dangos yr adborth a gawsom o'n harolwg ar-lein ac unrhyw fathau eraill o gyfathrebu. Mae hefyd yn rhoi rhestr o sylwadau, safbwyntiau neu bryderon a godwyd.
O ganlyniad yr arolwg, rydym wedi dod i'r casgliad bod yr ymatebwyr yn gyffredinol gefnogol i'r mesurau arfaethedig, felly byddwn yn symud ymlaen gyda'r cynllun hwn. Mae'r prif bwyntiau a nodwyd o'r ymgynghoriad yw:
- Mae mwyafrif yr ymatebwyr yn cefnogi'r mesurau arfaethedig.
- Mae hanner yr ymatebwyr o'r farn bod y mesurau GRhT arfaethedig yn fuddiol.
- Mae'r ymatebwyr yn credu bod problemau traffig yn cael eu hachosi gan barcio rhwystrol ar Heol Llanfihangel.