Mae Caerdydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau mawr yn rheolaidd ym myd chwaraeon a'r celfyddydau perfformio. Oherwydd y cynnydd yn y traffig a'r gofynion parcio sy'n deillio o'r digwyddiadau hyn, mae gan Gyngor Caerdydd drefniadau parcio arbennig a nifer o gyfleusterau Parcio a Theithio dan oruchwyliaeth.
Digwyddiadau ar ddod
Wedi gordalu am dacsi neu gael eich gwrthod gan un? Byddwn ni’n gweithredu
Mae Cyngor Caerdydd yn gofyn i unrhyw un sy'n credu ei fod wedi gordalu am dacsi neu sydd wedi cael ei wrthod gan un gofnodi rhif y gyrrwr neu tacsi, y dyddiad, yr amser, y lleoliad neu fanylion y daith ac e-bostio trwyddedu@caerdydd.gov.uk.
Bydd y Cyngor yn gweithredu ar ôl cael gwybod.
Bagiau
Mae cyfleusterau gadael bagiau ar gael yn Amgueddfa Caerdydd yn Yr Ais, Canol Dinas Caerdydd, CF10 1BH.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am storio bagiau ar wefan Croeso Caerdydd.