Nid yw pob ffordd yn addas ar gyfer mathau penodol o gerbydau, neu weithiau ni chaniateir i gerbydau yrru mewn ardaloedd penodol er mwyn sicrhau llif dirwystr y traffig, am resymau amgylcheddol neu oherwydd pryderon diogelwch.
Adnabod yr arwyddion
Fel arfer, mae arwyddion gyda chylch coch yn ardaloedd sydd wedi’u gwahardd. Weithiau ceir adegau pan fydd modd i gerbydau sydd fel arfer wedi cael eu gwahardd yrru ar hyd y ffyrdd hyn.
Ceir gwybodaeth am y gwahanol fathau o arwyddion a rhai o'r eithriadau mwyaf cyffredin isod.
Arwyddion
Dim cerbydau modur | ![Dim cerbydau modur](/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Dirwyon-traffig/Gwaharddiad/PublishingImages/No%20Motor.png)
|
Dim cerbydau ac eithrio beiciau sy’n cael eu gwthio | ![Dim cerbydau ac eithrio beiciau sy’n cael eu gwthio](/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Dirwyon-traffig/Gwaharddiad/PublishingImages/No%20vehicles.jpg)
|
Dim cerbydau nwyddau sy'n fwy na'r uchafswm pwysau gros a ddangosir ar yr arwydd | ![Dim cerbydau nwyddau sy'n fwy na'r uchafswm pwysau gros a ddangosir ar yr arwydd](/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Dirwyon-traffig/Gwaharddiad/PublishingImages/No%20Goods.jpg)
|
Dim cerbydau modur ac eithrio beiciau modur | ![Dim cerbydau modur ac eithrio beiciau modur ](/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Dirwyon-traffig/Gwaharddiad/PublishingImages/No%20motor%20vehicles.png)
|
Esboniad o arwyddion eithrio cyffredin
“Ac eithrio ar gyfer Mynediad” | Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen mynediad i eiddo ar y ffordd honno. |
"Ac Eithrio Mynediad i Eiddo Oddi ar y Stryd" | Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen mynedfa ar gyfer cerbydau i adeilad oddi ar y stryd nad yw ond yn gallu ei ddefnyddio o'r ffordd honno (megis maes parcio oddi ar y stryd). |
"Ac Eithrio Deiliaid Trwyddedau" | Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai eich bod wedi cael trwydded gan y Cyngor ar gyfer y lleoliad hwnnw . |
"Ac Eithrio Llwytho" | Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen i chi lwytho/dadlwytho nwyddau i eiddo ar y ffordd honno. |
"Ac eithrio llwytho gan gerbydau nwyddau" | Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen i chi lwytho/dadlwytho nwyddau i eiddo ar y ffordd honno ac rydych yn gyrru cerbyd nwyddau. |
Cynghorion campus er mwyn osgoi Hysbysiad Tâl Cosb (HTCau)
Rydym yn cyhoeddi HTCau am fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r arwyddion ffyrdd hyn.
Sicrhewch eich bod yn gwybod pa fath o gerbyd rydych yn ei yrru, fel eich bod yn gwybod pa arwydd sy'n berthnasol i'ch cerbyd, a sicrhewch eich bod yn gwybod ystyr y gwahanol fathau o eithriadau allai fod yn bresennol a gwiriwch a oes rhai ohonynt yn berthnasol.