Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut i apelio cyn Hysbysiad i’r Perchennog

​Gelwir apêl ar y cam hwn yn her anffurfiol hefyd. Byddwn yn ystyried unrhyw her anffurfiol yn erbyn dirwy barcio o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y tramgwydd.  Os bydd her anffurfiol yn dod i law ar ôl 28 diwrnod, efallai na chaiff ei hystyried. ​

Peidiwch â thalu os ydych eisiau herio’r HTC. Rydym yn ystyried taliad yn gydnabyddiaeth o atebolrwydd ac os byddwch yn talu, efallai na fyddwn yn ystyried eich llythyr herio. Ni fydd y ddirwy yn cynyddu tra’n bod ni’n ystyried eich llythyr herio.


​Ar ôl i ni dderbyn eich her, byddwn yn atal yr achos dros dro tra bod swyddog achos yn ei hystyried. Byddwn yn anfon penderfyniad atoch yn dilyn hyn. 


Gallwch herio HTC ar-lein.

Ni allwn ddatrys problemau dros y ffôn neu'n wyneb yn wyneb. 




Caiff unrhyw wybodaeth a roddir ei phrosesu yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Gall yr awdurdod neu gyrff perthnasol eraill ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych at ddibenion gorfodi, canfod twyll neu at unrhyw ddibenion cysylltiedig eraill fel y caniateir gan y gyfraith.​


Os gwrthodwn eich her anffurfiol a'ch bod am apelio yn ffurfiol o hyd

Y cam nesaf yw aros am Hysbysiad i Berchennog. Fel perchennog cofrestredig neu huriwr y cerbyd, bydd y ddogfen gyfreithiol hon yn eich galluogi i wneud apêl ffurfiol (sylwadau).  

Os byddwch yn dewis aros am Hysbysiad i Berchennog, ni fyddwch yn gallu talu'r ddirwy ar y gyfradd ostyngedig sy’n cael ei chynnig i chi am 14 diwrnod mwyach.  ​





© 2022 Cyngor Caerdydd