Newidiodd y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd adeiledig ar 17 Medi 2023.
Dyma newid cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru y mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gydymffurfio ag ef.
Mae'r newid yn y ddeddfwriaeth yn golygu bod pob ffordd bellach yn 20mya yn ddiofyn. Mae hyn yn golygu na chewch deithio’n gyflymach na 20mya yn ôl y gyfraith. Mae gan rai ffyrdd derfyn cyflymder o 30mya o hyd ac mae arwyddion yn dynodi hyn yn yr un modd â ffyrdd â therfynau cyflymder uwch.
Mae unrhyw arwyddion yn nodi terfyn cyflymder o 20mya yn cael eu tynnu ac ni fydd unrhyw arwyddion i’ch atgoffa am y terfyn cyflymder - yn yr un modd â mewn ardaloedd terfyn cyflymder 30mya yn flaenorol.
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwch yn gweld arwyddion 30mya yn cael eu gosod yn y mannau priodol.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd yn gweithio'n agos gyda GanBwyll, y sefydliad sy'n gyfrifol am orfodi cyflymderau yng Nghymru i sicrhau bod gyrwyr yn ymwybodol o'r terfyn diofyn newydd.
Mae’r prosiect i newid arwyddion yn un sylweddol ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd tra bod hyn yn digwydd. Bydd cyfnod o 'snagio' tra bod arwyddion yn cael eu gwirio.
Adborth preswylwyr ar ffyrdd yng Nghaerdydd
Rydym yn monitro’r gwaith o gyflwyno'r terfyn cyflymder 20mya ac yn gofyn am eich adborth. Mae hyn yn cynnwys unrhyw geisiadau am:
- newidiadau i gael eu gwneud i'r terfynau cyflymder ar ffyrdd penodol yng Nghaerdydd, neu
- derfynau cyflymder 20mya i aros yn eu lle mewn ardaloedd penodol.
Byddwn yn casglu eich adborth ac yn defnyddio canllawiau Llywodraeth Cymru i'w adolygu. Rydym yn disgwyl derbyn y canllawiau ym mis Gorffennaf 2024.
Ni fyddwn yn cofnodi sylwadau cyffredinol am y polisi 20mya gan eu bod yn fater i Lywodraeth Cymru a'i gweinidogion. Gallwch
gysylltu â Llywodraeth Cymru.
Cysylltu â ni