Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymuno â llyfrgell

​​​​​​​​Ymunwch â’ch llyfrgell leol am ddim a chael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau.

Gallwch wneud hyn ar-lein neu yn unrhyw un o'n Hybiau a llyfrgelloedd.​​

Gallwch fenthyg llyfrau ac eLyfrau, a defnyddio'r cyfrifiaduron am ddim, ond rydym yn codi tâl am wasanaethau eraill fel benthyca CDs.  

​Ymuno â'r llyfrgell ar-lein

Pan fyddwch yn ymuno ar-lein, byddwch yn cael ID defnyddiwr i fewngofnodi. Ni fydd angen cerdyn llyfrgell arnoch, ond gallwch gael un yn eich Hyb neu lyfrgell leol o hyd. ​

Ymuno â'r llyfrgell ar-lein.

Y​muno â'r llyfrgell wyneb yn wyneb

Gallwch ymuno â llyfrgell yn unrhyw un o'n Hybiau a llyfrgelloedd.​

Gweld ein rhestr lawn o leoliadau ac am​​seroedd agor.

Pan fyddwch yn ymuno wyneb yn wyneb, bydd angen i chi ddangos prawf adnabod. Er enghraifft:

  • trwydded yrru,
  • cerdyn debyd neu gredyd,
  • bil trydan, ​nwy, neu dŵr,
  • cyfriflen banc neu gerdyn credyd,
  • pasbort, neu  
  • ID myfyriwr neu gerdyn NUS, gan gynnwys Cerdyn Adnabod Myfyriwr Rhyngwladol (ISIC) a Cherdyn Teithio Ieuenctid Rhyngwladol (IYTC).​


Os ydych o dan 16 oed, bydd angen i'ch rhiant neu ofalwr ddangos un math o brawf adnabod a llofnodi'r cais.

Gallwch hefyd ddefnyddio eich cerdyn llyfrgell presennol i ymuno â Llyfrgelloedd Caerdydd os ydych yn aelod o wasanaeth llyfrgell arall yng: 

  • Nghymru,
  • Lloegr, neu
  • Ogledd Iwerddon.  ​

Adnewyddu ac eitemau hwyr​

Sylwch fod llyfrau yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig ar hyn o bryd, sy'n golygu na fydd dirwyon hwyr fel arfer yn berthnasol. Mae hyn yn rhywbeth dros dro a gallai newid.



Gweld y rhestr lawn o ffioedd a thaliada​u llyfrgell.  ​

Os nad ydych wedi gorffen gyda'r eitem rydych wedi'i benthyg, mae'n bosibl y gallwch ei hadnewyddu, ar yr amod nad yw wedi'i chadw gan rywun arall. Gallwch: 

  • adnewy​​ddu ar-lein,
  • ffonio eich llyfrgell leol i adnewyddu dros y ffôn, neu
  • fynd â'r eitem yn ôl i lyfrgell a'i hadnewyddu wyneb yn wyneb. 

Bydd angen eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN arnoch os ydych yn adnewyddu ar-lein. 

Nid oes dirwyon ar gyfer llyfrau plant, ond dewch â nhw'n ôl atom mor agos i'r dyddiad dychwelyd â phosibl os gwelwch yn dda. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymuno â llyfrgell, llenwch ein ffurflen.

Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy ein ffurflen os ydych wedi anghofio'ch PIN. Nodwch rif eich cerdyn llyfrgell os ydych yn ei wybod. ​



​​Cysylltu â ni
























© 2022 Cyngor Caerdydd