Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd

​​​​​​​​​​​​​​​​​​Os ydych chi'n gwario mwy na 10% o'ch incwm i wresogi'ch cartref yn rheolaidd, ystyrir eich bod mewn tlodi tanwydd. Gallwch ddarganfod mwy am dlodi tanwydd​ ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Gallech leihau biliau ynni eich cartref drwy wneud rhai newidiadau i'ch arferion dyddiol. Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau arbed ynni ar wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.



Os ydych yn ei chael hi'n anodd talu eich biliau nwy a thrydan, cysylltwch â'ch cyflenwr. Efallai y gallan nhw helpu gydag:

  • adolygiad llawn o'r cynllun talu,
  • cynlluniau ad-dalu dyledion fforddiadwy,
  • egwyl talu,
  • gostyngiadau mewn taliadau,
  • mwy o amser i dalu, neu
  • fynediad at gronfeydd caledi.

Newid cyflenwr


Gallech leihau eich biliau ynni drwy newid eich tariff neu gyflenwr. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am newid cyflenwr ynni ar wefan Ofgem.  Nid oes angen i chi fod yn berchen ar eich cartref i newid cyflenwr.

Tîm Cyngor Ariannol


Gall ein tîm Cyngor Ariannol gynnig cymorth a chyngor i chi ar reoli eich biliau ynni

Gallwch hefyd ffonio, e-bostio neu ymweld â Hyb lleol i gael cyngor.

Ffôn: 02920 871 071
E-bost: hybcyngor@caerdydd.gov.uk

Mesuryddion rhagdalu


Gallech ei chael hi'n haws rheoli eich biliau ynni trwy ofyn i'ch cyflenwr osod mesurydd rhagdalu. Mae mesurydd rhagdalu yn gadael i chi dalu wrth i chi fynd am yr ynni rydych chi'n ei ddefnyddio. Ni chodir mwy na chwsmeriaid sydd yn talu biliau yn uniongyrchol.

Yn ddiweddar, mae cod ymarfer wedi'i ddiweddaru wedi'i gyflwyno gan Ofgem, i esbonio'r rheolau newydd y mae'n rhaid i gyflenwyr eu dilyn cyn gosod mesuryddion rhagdalu mewn cartrefi.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am fesuryddion rhagdalu​ ar wefan Ofgem.

Deall eich biliau tanwydd


Os ydych yn ei chael hi'n anodd darllen neu ddeall eich biliau ynni, mae gan National Energy Action (NEA) daflenni a all ddangos i chi:



Gallwch weld y ffyrdd gwahanol y gallech wella effeithlonrwydd ynni eich cartrefi.

Cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru


Gallwch gael cyngor am effeithlonrwydd ynni gan Gynllun Nyth Cartrefi Cynnes. Gallant hefyd gynnig gwelliannau os ydych yn gymwys ar eu cyfer. 

Gallwch ddarganfod mwy ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.


RhCY4 (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni)


Os ydych yn berchen ar eich cartref neu'n rhentu'n breifat, gallech gael cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Ofgem

Connected for Warmth


Gallech gael arian tuag at inswleiddio wal llofft a cheudod os yw eich cartref:

  • ym mand treth gyngor A i D, neu
  • Â sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni C neu is


Gallwch ddarganfod mwy ar wefan Connected for Warmth.

Cynllun Uwchraddio Boeleri 


Os ydych yn berchen ar eich cartref, gallech gael grant o hyd at £6000 i uwchraddio eich gwres i system fwy effeithlon. Mae mwy o wybodaeth ar wefan GOV UK.  

Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr


Gallech gael inswleiddio cartref am ddim os:

  • ydych ar incwm isel,
  • mae gan eich cartref sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni D neu is, neu
  • mae eich cartref ym mand treth gyngor A i D


Gallwch ddarganfod mwy ar wefan Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr.

Cymru Gynnes


Gall Cymru Gynnes gynnig cyngor a chefnogaeth am ddim i holl drigolion Cymru. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cymru Gynnes. ​

Gallai lleithder sy'n cronni yn eich cartref arwain at lwydni. Gallwch osgoi hyn drwy wresogi ac awyru eich cartref.


Gallwch leihau'r lleithder yn eich cartref trwy:

  • gadw’r caeadau ar sosbenni pan fyddwch yn coginio,
  • sychu dillad y tu allan yn hytrach nag ar reiddiadur,
  • gosod agorfa i’ch sychwr dillad y tu allan,
  • osgoi defnyddio gwresogyddion paraffin neu wresogyddion nwy potel, a 
  • chael cawodydd a bath oerach.


Gallwch adael aer llaith allan o'ch cartref ac awyr iach i mewn, trwy:

  • ddefnyddio ffaniau echdynnu i gael gwared ar aer llaith ac atal anwedd rhag cronni, a
  • chadw drws eich cegin neu ystafell ymolchi ar gau a ffenestri ar agor wrth goginio neu ymolchi.


Gallech wella cynhesrwydd eich cartref trwy:

  • osod inswleiddio llofft (i'r dyfnder a argymhellir o 270mm), 
  • rhoi deunydd atal drafftiau ar ddrysau a ffenestri, 
  • inswleiddio waliau ceudod os yw eich cartref yn addas ar ei gyfer, a
  • gosod gwydr dwbl ar ffenestri drafftiog


Dylech hefyd wresogi ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio, gan fod ystafelloedd oerach yn fwy tebygol o fod â lleithder a llwydni. Mae tymheredd cartref iach rhwng 18 a 23 gradd Celsius. 

Gallech gael grant gan Gwarant Allforio Clyfar​ os oes gennych ddiddordeb yn creu eich trydan eich hun o:

  • solar, 
  • gwynt, 
  • hydro, neu
  • wres daear neu aer

​​



Mae cyllid ar gael i aelwydydd deiliadaeth breifat (perchen-feddiannwr a rhentu preifat) ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni.

Efallai y byddwch yn gymwys os yw incwm y cartref sy'n llai na £31,000 ac rydych yn byw mewn cartref ynni-aneffeithlon.
 
Mae Cyngor Caerdydd wedi ffurfio partneriaeth ag EON ar gyfer darparu RhCY4 Hyblyg ALl.  Dylid gwneud pob cais drwy EON gwefa neu ffôn.

Ffôn: 0333 202 4422

Mae'r Datganiad o Fwriad hwn yn nodi meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Caerdydd ar gyfer RhCY4 Hyblyg ALl: 


Noder nad yw bodloni meini prawf cymhwysedd hyblyg y Cyngor, a chyhoeddi Datganiad gan Gyngor Caerdydd, yn gwarantu gosod mesurau. Bydd y penderfyniad terfynol yn nwylo'r Cyflenwr Ynni a fydd yn ariannu ac yn darparu gosodiadau.




​​
© 2022 Cyngor Caerdydd