Gallwch wneud cais am gymorth drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol os na allwch dalu am bethau yr ydych chi eu hangen.
Mae 2 fath o daliadau drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol:
-
Taliad Cymorth Unigol, a
- Thaliad Cymorth Brys.
Sylwch na chewch wneud cais am grant Cronfa Cymorth Dewisol os ydych eisoes wedi derbyn grant yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, neu 3 grant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Taliad Cymorth Unigol (TCU)
Mae'r Taliad Cymorth Unigol yn grant:
- i'ch helpu i fyw'n annibynnol yn eich cartref presennol neu gartref newydd, neu
- i helpu rhywun rydych yn gofalu amdano i fyw'n annibynnol yn ei gartref presennol neu gartref newydd.
Bydd y grant yn darparu neu'n cyflenwi:
- nwyddau gwyn (er enghraifft, oergell, popty neu beiriant golchi), a
- dodrefn cartref (er enghraifft, gwelyau, soffas a chadeiriau).
Dim ond trwy bartner cymeradwy y cewch wneud cais am nwyddau gwyn a dodrefn cartref.
Pwy gaiff wneud cais?
I wneud cais am y Taliad Cymorth Unigol, mae'n rhaid i chi:
- fod yn byw yng Nghymru,
- fod yn 16 oed neu'n hŷn,
- fod heb fynediad at arian arall,
- fod wedi ceisio defnyddio'r holl ffynonellau cyllid fforddiadwy eraill (er enghraifft, undeb credyd),
- beidio â bod yn byw mewn cartref gofal (oni bai eich bod yn cael eich rhyddhau yn y 6 wythnos nesaf)
- beidio â bod yn y carchar (oni bai eich bod yn cael eich rhyddhau yn y 6 wythnos nesaf), a
- beidio â bod yn aelod o urdd grefyddol a gynhelir yn llawn.
Mae'n rhaid eich bod eisoes yn cael:
- cymhorthdal Incwm,
- lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn, neu
- Gredyd Cynhwysol (lwfans safonol neu bersonol).
Mae'n rhaid i chi hefyd:
- fod yn gadael cartref gofal neu sefydliad (er enghraifft, ysbyty, carchar neu ofal maeth) i fyw'n annibynnol ar ôl o leiaf 3 mis,
- fod eisiau parhau i fyw yn eich cymuned yn hytrach na gorfod mynd i sefydliad,
- fod wrthi'n sefydlu cartref ar ôl cyfnod o fyw'n ansefydlog,
- fod angen symud cartref yn gyflym oherwydd perthynas yn chwalu neu drais domestig, neu
- fod yn gofalu am garcharor neu droseddwr ifanc sydd wedi'i ryddhau ar drwydded dros dro.
Taliad Cymorth Brys (TCB)
Mae'r Taliad Cymorth Brys yn grant i helpu i dalu costau hanfodol (er enghraifft, bwyd, nwy, trydan, dillad neu siwrneiau brys) os ydych chi:
- yn profi caledi ariannol eithafol,
- wedi colli'ch swydd, ac
- wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf.
Sylwch na chewch ddefnyddio'r Taliad Cymorth Brys i dalu am filiau parhaus na allwch fforddio eu talu.
Pwy gaiff wneud cais?
I wneud cais am y Taliad Cymorth Brys, mae'n rhaid i chi:
- fod yn byw yng Nghymru,
- fod yn 16 oed neu'n hŷn,
- fod mewn sefyllfa argyfyngus ac angen cymorth ariannol ar fyrder,
- fod mewn caledi ariannol eithafol,
- fod heb unrhyw arian arall (er enghraifft, cynilion), a
- bod wedi ystyried pob benthycwr cyfreithiol a chyfrifol arall (er enghraifft, undebau credyd).
Gallai enghreifftiau o galedi ariannol eithafol gynnwys:
- rydych chi wedi colli'ch swydd ac rydych chi wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf, neu
- nid oes gennych chi unrhyw arian i brynu bwyd, nwy a thrydan.
Gwneud cais
I wneud cais i'r Taliad Cymorth Brys, cysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol.
Gallwch chi wneud cais i'r Taliad Cymorth Unigol ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cymorth arall sydd ar gael
Gweld mwy o opsiynau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Benthyciadau cyllidebu
Efallai y byddwch yn gymwys i gael benthyciadau cyllidebu os ydych wedi bod ar rai budd-daliadau am 6 mis neu fwy.
Mae benthyciadau cyllidebu yn cael eu gweinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Gallwch chi weld mwy am fenthyciadau cyllidebu ar wefan GOV UK.
Rhagdaliadau Credyd Cynhwysol
Os ydych wedi gwneud cais newydd yn ddiweddar, efallai y byddwch yn gallu cael taliad ymlaen llaw. Bydd angen i chi dalu'r arian hwn yn ôl o daliadau budd-daliadau yn y dyfodol. Gallwch ofyn am hyn drwy eich cofnod Credyd Cynhwysol.
Cymorth costau byw
Gallwch chi weld mwy am gynlluniau eraill a chymorth sy'n lleol i chi ar wefan Cyngor Ariannol.