Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cronfa Cymorth Dewisol

​​​​​​​​​​Gallwch wneud cais am gymorth drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol os na allwch dalu am bethau yr ydych chi eu hangen. 

Mae 2 fath o daliadau drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol:

  • Taliad Cymorth Unigol, a
  • Thaliad Cymorth Brys.

Sylwch na chewch wneud cais am grant Cronfa Cymorth Dewisol os ydych eisoes wedi derbyn grant yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, neu 3 grant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. ​ ​​


Taliad Cymorth Unigol (TCU)

Mae'r Taliad Cymorth Unigol yn grant:

  • i'ch helpu i fyw'n annibynnol yn eich cartref presennol neu gartref newydd, neu
  • i helpu rhywun rydych yn gofalu amdano i fyw'n annibynnol yn ei gartref presennol neu gartref newydd.​

 

Bydd y grant yn darparu neu'n cyflenwi:

  • nwyddau gwyn (er enghraifft, oergell, popty neu beiriant golchi), a
  • dodrefn cartref (er enghraifft, gwelyau, soffas a chadeiriau).   

​Dim ond trwy bartner cymeradwy y cewch wneud cais am nwyddau gwyn a dodrefn cartref. ​

Pwy gaiff wneud cais?

I wneud cais am y Taliad Cymorth Unigol, mae'n rhaid i chi:

  • fod yn byw yng Nghymru, 
  • fod yn 16 oed neu'n hŷn, 
  • fod heb fynediad at arian arall,
  • fod wedi ceisio defnyddio'r holl ffynonellau cyllid fforddiadwy eraill (er enghraifft, undeb credyd), 
  • beidio â bod yn byw mewn cartref gofal (oni bai eich bod yn cael eich rhyddhau yn y 6 wythnos nesaf)
  • beidio â bod yn y carchar (oni bai eich bod yn cael eich rhyddhau yn y 6 wythnos nesaf), a
  • beidio â bod yn aelod o urdd grefyddol a gynhelir yn llawn. 


Mae'n rhaid eich bod eisoes yn cael:

  • cymhorthdal Incwm, 
  • lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn, neu
  • Gredyd Cynhwysol (lwfans safonol neu bersonol). 

 

Mae'n rhaid i chi hefyd:

  • fod yn gadael cartref gofal neu sefydliad (er enghraifft, ysbyty, carchar neu ofal maeth) i fyw'n annibynnol ar ôl o leiaf 3 mis,
  • fod eisiau parhau i fyw yn eich cymuned yn hytrach na gorfod mynd i sefydliad,  
  • fod wrthi'n sefydlu cartref ar ôl cyfnod o fyw'n ansefydlog, 
  • fod angen symud cartref yn gyflym oherwydd perthynas yn chwalu neu drais domestig, neu
  • fod yn gofalu am garcharor neu droseddwr ifanc sydd wedi'i ryddhau ar drwydded dros dro. ​

Taliad Cymorth Brys (TCB)

Mae'r Taliad Cymorth Brys yn grant i helpu i dalu costau hanfodol (er enghraifft, bwyd, nwy, trydan, dillad neu siwrneiau brys) os ydych chi: 

  • yn profi caledi ariannol eithafol, 
  • wedi colli'ch swydd, ac 
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf.​​


Sylwch na chewch ddefnyddio'r Taliad Cymorth Brys i dalu am filiau parhaus na allwch fforddio eu talu.

Pwy gaiff wneud cais?​

I wneud cais am y Taliad Cymorth Brys, mae'n rhaid i chi:

  • fod yn byw yng Nghymru, 
  • fod yn 16 oed neu'n hŷn,  
  • fod mewn sefyllfa argyfyngus ac angen cymorth ariannol ar fyrder,
  • fod mewn caledi ariannol eithafol,
  • fod heb unrhyw arian arall (er enghraifft, cynilion), a
  • bod wedi ystyried pob benthycwr cyfreithiol a chyfrifol arall (er enghraifft, undebau credyd).

Gallai enghreifftiau o galedi ariannol eithafol gynnwys:

  • rydych chi wedi colli'ch swydd ac rydych chi wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf, neu
  • nid oes gennych chi unrhyw arian i brynu bwyd, nwy a thrydan. 

Gwneud cais

I wneud cais i'r Taliad Cymorth Brys, cysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol​.


​Gallwch chi wneud cais i'r Taliad Cymorth Unigol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cymorth arall sydd ar gael

​Gweld mwy o opsiynau a allai fod yn ddefnyddiol i chi. 

Benthyciadau cyllidebu

Efallai y byddwch yn gymwys i gael benthyciadau cyllidebu os ydych wedi bod ar rai budd-daliadau am 6 mis neu fwy. 

Mae benthyciadau cyllidebu yn cael eu gweinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.  

Gallwch chi weld mwy am fenthyciadau cyllidebu ar wefan GOV UK.​

Rhagdaliadau Credyd Cynhwysol

​Os ydych wedi gwneud cais newydd yn ddiweddar, efallai y byddwch yn gallu cael taliad ymlaen llaw.  Bydd angen i chi dalu'r arian hwn yn ôl o daliadau budd-daliadau yn y dyfodol. Gallwch ofyn am hyn drwy eich cofnod Credyd Cynhwysol.​

Cymorth costau byw

Gallwch chi weld mwy am gynlluniau eraill a chymorth sy'n lleol i chi ar wefan Cyngor Ariannol. ​


© 2022 Cyngor Caerdydd