Mynnwch gymorth ariannol os oes gennych blant yn yr ysgol.
Grant Hanfodion Ysgol
Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau, gallech gael cymorth tuag at gost gwisg ysgol a chyflenwadau ysgol i'ch plentyn.
Bydd gennych hawl i daliad o £125 os yw'ch plentyn yn:
- mynychu ysgol gynradd a gynhelir,
- mynychu ysgol uwchradd a gynhelir,
- 4 i 15 oed mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion.
Os yw'ch plentyn yn dechrau blwyddyn 7, byddwch yn cael £200.
Mae'r grant hefyd ar gael i unrhyw blentyn sy'n derbyn gofal sy'n mynychu ysgol yng Nghaerdydd.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Grant Hanfodion Ysgol.
Gwneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol.
Prydau ysgol am ddim
Gall disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd gael prydau ysgol am ddim os yw eu teulu'n derbyn budd-daliadau penodol.
Trafnidiaeth ysgol am ddim
Gall disgyblion cynradd ac uwchradd gael trafnidiaeth am ddim i'r ysgol os ydych yn byw pellter penodol i ffwrdd o'r ysgol.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg
Os ydych ar incwm isel ac mae’ch plentyn rhwng 16 a 18 oed ac yn dal i fod mewn addysg, efallai y bydd yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Bydd y taliad hwn yn cael ei wneud yn uniongyrchol i'ch plentyn i helpu tuag at gostau ysgol.
Educational Trusts’ Forum
Mae’r Educational Trusts’ Forum yn elusen sy'n darparu grantiau i deuluoedd sy'n wynebu anawsterau ac a allai fod yn cael trafferth talu costau ysgol.