Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Polisi Preifatrwydd Dinas Gerdd Caerdydd

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Dinas Gerdd Caerdydd yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu’n cofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn negeseuon e-bost marchnata neu’n cystadlu yn ein cystadlaethau neu dynnu gwobrau.

Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn rhan o Gyngor Caerdydd, y Rheolwr Data at ddibenion y data a gesglir. Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.  

Pa ddata ydym yn ei gasglu?


Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn casglu'r data canlynol:
Enw
Cyfeiriad e-bost 
Cod Post.       

Cesglir hyn at ddiben derbyn diweddariadau sy'n ymwneud â cherddoriaeth, digwyddiadau, pethau i'w gwneud a mwy gan y tîm. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn un o nifer o brosiectau gan Ddinas Gerdd Caerdydd, a reolir gan Gyngor Caerdydd.  O bryd i'w gilydd efallai y bydd cystadlaethau neu roddion hefyd gydag opsiwn i gael eich ychwanegu at y rhestr bostio marchnata.

Mae'r gyfraith Diogelu Data yn disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel un sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni (a) Caniatâd: mae'r unigolyn wedi rhoi caniatâd clir i chi brosesu ei ddata personol at ddiben penodol.

Sut rydym yn casglu eich data?


Rydych yn rhoi’r rhan fwyaf o’r data rydym yn ei gasglu i Ddinas Gerdd Caerdydd yn uniongyrchol. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn:

Cofrestru i dderbyn negeseuon e-bost ar gyfer digwyddiadau a allai fod o ddiddordeb i chi.
Wrth gymryd rhan mewn cystadleuaeth neu ddigwyddiad.
Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu’n rhoi adborth ar unrhyw un o'n byrddau negeseuon neu drwy e-bost.
Defnyddio ein gwefan neu edrych arni trwy gwcis eich porwr

Efallai y bydd Dinas Gerdd Caerdydd hefyd yn cael eich data yn anuniongyrchol o'r ffynonellau canlynol:

Lle efallai eich bod wedi dewis derbyn ein deunyddiau marchnata gan bartner (er enghraifft, wrth brynu tocyn ar gyfer digwyddiad y mae Dinas Gerdd Caerdydd yn ymwneud â'i greu).

Sut byddwn yn defnyddio eich data?


Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn casglu eich data fel y gallwn:

Brosesu eich archeb a rheoli eich cyfrif.
Anfon e-bost atoch gyda newyddion am weithgareddau Dinas Gerdd Caerdydd - gan gynnwys yr ŵyl a chan bartneriaid.
Anfon e-bost atoch gyda newyddion a chynigion arbennig am gynnyrch a gwasanaethau eraill y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt.
Cymryd rhan mewn cystadleuaeth neu rodd ac fel y gallwn gysylltu â chi am unrhyw wobr.

Sut ydym yn storio eich data?


Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn storio eich data yn ddiogel gyda systemau diogelu cyfrinair diogel a thrwy Mailchimp. Mae Mailchimp yn llwyfan awtomeiddio marchnata yn America, a thrwy glicio i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Gallwch adolygu polisïau preifatrwydd Mailchimp i ystyried unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â darparu gwybodaeth bersonol y tu allan i'r UE, yma: https://mailchimp.com/legal/
Ar gyfer rhoddion a chystadlaethau, mae eich data hefyd yn cael ei storio trwy systemau diogelu cyfrinair diogel gyda Mailchimp a thrwy'r wefan trydydd parti Mailchimp 
Bydd cystadlaethau neu dynnu gwobrau yn casglu eich data gan ddefnyddio Snap Surveys.   Mae Snap Surveys Limited a Snap Surveys NH, Inc.("Snap Surveys", neu "ni") wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd a diogelu eich gwybodaeth bersonol. Mae eu polisi preifatrwydd yn disgrifio’r ffordd y maent yn casglu ac yn defnyddio'r wybodaeth bersonol y maent yn ei chasglu am ymwelwyr â'u gwefan a defnyddwyr ein cynnyrch a'n gwasanaethau: https://www.snapsurveys.com/survey-software/privacy-policy-us/ 

Bydd ffurflen Snap Survey yn casglu data sy'n cynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch cod post, gydag opsiwn i optio i mewn i restr bostio Dinas Gerdd Caerdydd (a hefyd optio i mewn i glywed gan bartneriaid, lle bo hynny'n briodol). 

Bydd Dinas Gerdd Caerdydd yn cadw eich data cofrestru e-bost hyd nes y byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl neu nes bod tair blynedd wedi mynd heibio. Gallwch ddad-danysgrifio neu ddiweddaru eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen yn nhroednodyn ein negeseuon e-bost neu drwy gysylltu â thîm Dinas Gerdd Caerdydd yn uniongyrchol yn musiccity@visitcardiff.com.

Ar gyfer data cystadleuaeth neu dynnu gwobrau, bydd y rhai nad ydynt wedi optio i mewn i dderbyn data marchnata yn cael eu storio hyd nes y bydd yr enillydd wedi'i hysbysu (am hyd at 3 mis). Ar ôl diwedd y cyfnod hwn, byddwn yn dileu eich data drwy ei ddileu o’n systemau.

Marchnata


Dymuna Dinas Gerdd Caerdydd anfon gwybodaeth atoch am ein cynnyrch a’n gwasanaethau y credwn allai fod o ddiddordeb i chi, yn ogystal â rhai ein cwmnïau partner.

Er nad ydym yn rhannu eich data personol gyda sefydliadau neu bartneriaid trydydd parti, efallai y byddwch yn derbyn negeseuon e-bost gennym yn eich cyfeirio at eu digwyddiadau a'u busnesau a'u gwasanaethau. Cliciwch ar yr opsiwn Dad-danysgrifio ar ein negeseuon e-bost marchnata neu e-bostiwch y tîm yn musiccity@visitcardiff.com os hoffech optio allan ar unrhyw adeg.

Os ydych wedi cytuno i dderbyn gohebiaeth farchnata, gallwch bob amser ddewis peidio â’i derbyn yn ddiweddarach.

Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i atal Dinas Gerdd Caerdydd rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata neu roi eich data i aelodau eraill Cyngor Caerdydd. 

Os nad ydych yn dymuno i ni gysylltu â chi mwyach at ddibenion marchnata, cliciwch ar e-bost musiccity@visitcardiff.com 

Beth yw eich hawliau diogelu data? 


Dymuna Dinas Gerdd Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol: 

Yr hawl i gael mynediad 

Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd am gopïau o'ch data personol. 

Yr hawl i gywiro

 Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi.  Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.

Yr hawl i ddileu 

Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd ddileu eich data personol, dan rai amodau. 

Yr hawl i gyfyngu prosesu 

Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu 

Mae gennych hawl i wrthwynebu i Ddinas Gerdd Caerdydd brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data

Mae gennych hawl i ofyn i Ddinas Gerdd Caerdydd drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.  Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni drwy ein cyfeiriad e-bost: diogeludata@caerdydd.gov.uk

Neu ysgrifennwch atom:  Swyddog Diogelu Data  
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth  
Neuadd y Sir  
Glanfa'r Iwerydd   
Caerdydd  
CF10 4UW    

Cwcis


Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad defnyddwyr. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, mae’n bosibl y byddwn yn casglu data gennych yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg

I gael mwy o wybodaeth, ewch i allaboutcookies.org.

Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill


Mae gwefan Dinas Gerdd Caerdydd yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i'n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw. 

https://mailchimp.com/legal/

https://www.snapsurveys.com/survey-software/privacy-policy-us/ 

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd


Mae Ein Cwmni yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 1 Mai 2024.

Sut i gysylltu â ni  

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Dinas Gerdd Caerdydd, y data rydym yn ei gadw amdanoch, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio diogeludata@caerdydd.gov.uk  neu drwy’r post:   
 
Swyddog Diogelu Data  
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth  
Neuadd y Sir  
Glanfa'r Iwerydd   
Caerdydd  
CF10 4UW     
 

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol  

 
Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Dinas Gerdd Caerdydd wedi mynd i'r afael â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei gwefan​  neu drwy ffonio 0303 123 1113.    

© 2022 Cyngor Caerdydd