Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer gwasanaethau llety a chymorth i bobl ifanc

​​Mae Porth Pobl Ifanc yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef Rheolydd y Data at ddibenion casglu data. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaeth. ​

Pynciau

  • Polisïau preifatrwydd ar gyfer gwefannau eraill
  • Newidiadau i'n polisi preifatrwydd 

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Mae angen y data canlynol er mwyn galluogi swyddogion i wneud argymhellion a phenderfyniadau gwybodus a chadarn am eich anghenion llety a chymorth:

  • Enw
  • Dyddiad Geni
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Statws Priodasol
  • Rhywedd

 

Mae'r gyfraith Diogelu Data yn disgrifio'r sail gyfreithlon dros brosesu eich data fel sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni: (e) Tasg gyhoeddus: mae'r prosesu'n angenrheidiol i chi berfformio tasg sydd er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth seiliau clir yn y gyfraith.

Deddfwriaeth: 

  • Deddf Tai (Cymru) 2014
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

 

Mae Porth Pobl Ifanc hefyd yn casglu, storio a defnyddio'r data categori arbennig canlynol:

  • Ethnigrwydd
  • Anabledd 
  • Cenedligrwydd
  • Gwybodaeth yn ymwneud â chyfnod blaenorol o fod yn blentyn mewn angen
  • Pobl sy'n gadael gofal – gweithgareddau a llety

Mae Porth Pobl Ifanc yn prosesu data categori arbennig o dan Erthygl 9 (g) Rhesymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd (gyda sail gyfreithiol) o dan Atodlen 1 amod 18: Diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl.

Mae Porth Pobl Ifanc yn prosesu data troseddau o dan y canlynol:

  • Atodlen 1 Rhan 1 Amod 6: yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd. 
  • Atodlen 1 Rhan 2 Amod 18:  Diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl.
  • Atodlen 1 Rhan 3 Amod 30:   Amddiffyn buddiannau hanfodol yr unigolyn. 

Sut rydym yn casglu eich data?

Rydych chi'n darparu'r rhan fwyaf o'r data rydyn ni'n ei gasglu yn uniongyrchol i'r Porth Pobl Ifanc. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn defnyddio'r Porth Pobl Ifanc.

Efallai y bydd y Porth Pobl Ifanc hefyd yn cael eich data yn anuniongyrchol o'r ffynonellau canlynol:

  • Llamau
  • Byddin yr Iachawdwriaeth 

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Mae Porth Pobl Ifanc yn casglu eich data fel y gallwn brosesu a rheoli eich lleoliad mewn llety â chymorth. 

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?

  • Llamau

Gweld polisi preifatrwydd Llamau​ am wybodaeth am sut mae’n prosesu eich data personol.

  • Byddin yr Iachawdwriaeth

Gweld polisi preifatrwydd Byddin yr Iachawdwriaeth​ am wybodaeth am sut mae’n prosesu eich data personol.​

​Sut rydym yn storio eich data?

Mae'r Porth Pobl Ifanc yn storio'ch data yn ddiogel trwy gronfa data'r Porth Pobl Ifanc.

Bydd Tîm y Porth Pobl Ifanc yn cadw eich data am hyd at 75 mlynedd.

Pan fydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, byddwn yn dileu eich data.   

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai Porth Pobl Ifanc Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:

Yr hawl i gael mynediad 

Mae gennych hawl i ofyn i'r Porth Pobl Ifanc am gopïau o'ch data personol.

Yr hawl i gywiro 

Mae gennych hawl i ofyn i'r Porth Pobl Ifanc gywiro unrhyw wybodaeth rydych chi'n credu sy'n anghywir. Mae gennych yr hawl hefyd i ofyn i'r Porth Pobl Ifanc gwblhau'r wybodaeth rydych chi'n credu sy'n anghyflawn.

Yr hawl i ddileu 

Mae gennych hawl i ofyn i'r Porth Pobl Ifanc ddileu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu 

Mae gennych hawl i ofyn i'r Porth Pobl Ifanc gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu 

Mae gennych hawl i wrthwynebu i'r Porth Pobl Ifanc brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gludadwyedd data 

Mae gennych hawl i ofyn bod y Porth Pobl Ifanc yn trosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

​Sut i gysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisïau preifatrwydd y Porth Pobl Ifanc, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost i diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy'r post:  

 

Swyddog Diogelu Data 
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth 
Neuadd y Sir 
Glanfa'r Iwerydd  
Caerdydd 
CF10 4UW    

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Mae'r Porth Pobl Ifanc yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 15 Mai 2024. 

Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol ​

Os hoffech adrodd cwyn neu os ydych yn teimlo nad yw’r gwasanaeth wedi ymdrin â’ch cwyn yn foddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth​​​: ​0303 123 1113. ​​



© 2022 Cyngor Caerdydd