Mae gan ddau o bwyllgorau'r Cyngor Aelodau Annibynnol neu Aelodau Lleyg. Diben hyn yw cefnogi llywodraethu da, stiwardiaeth ariannol a safonau ymddygiad uchel y Cyngor a'i Aelodau Etholedig. Mae gan Aelodau Annibynnol amrywiaeth o brofiad a sgiliau ac nid oes ganddynt gysylltiadau busnes â'r Cyngor.
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Mae Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor yn ymchwilio a cheisio sicrwydd gan amrywiaeth o uwch swyddogion ac yn goruchwylio ac yn cyfrif am waith archwilwyr mewnol ac allanol y Cyngor. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys deuddeg aelod, sy'n cynnwys wyth Cynghorydd, a phedwar Aelod Annibynnol. Mae'r cydbwysedd hwn o aelodaeth etholedig ac annibynnol yn cynnig darpariaeth gynhyrchiol, gadarn a deinamig o gyfrifoldebau'r Pwyllgor, sy'n cael ei arwain gan Gadeirydd Annibynnol.
Nid oes unrhyw swyddi gwag ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar hyn o bryd.
Pwyllgor Safonau a Moeseg
Rhaid i bob Cyngor gael Pwyllgor Safonau.
Mae gan Bwyllgor Safonau a Moeseg Caerdydd gyfrifodeb i sicrhau bod aelodau etholedig y Cyngor a chwe Chynghorau Cymunedol yn cadw at safonau ymddygiad uchel ac yn gweithredu yn unol a'r egwyddorion a nodir yn y
Cod Ymddygiad statudol i Aelodau (267kb PDF).
Mae'r Pwyllgor yn cynnwys naw aelod I gyd:
- Pum Aelod Annibynnol,
- Tri Chynghorydd Sir, ac
- Un Cynghorydd Cymunedol
Nid oes rolau gwag ar y Pwyllgor Safonau a Moeseg.