Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Yr Arglwydd Faer Cyfredol

​​
Cynghorydd Jane Henshaw.jpg​​​​
​​
​Y Cynghorydd Jane Henshaw
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd
Blwyddyn Drefol 2024 i 2025


Manylion Personol

Mae Cynghorydd Caerdydd, Jane Henshaw, sydd wedi dod yn 119fed Arglwydd Faer Caerdydd, wedi enwi Banc Bwyd Caerdydd  fel ei helusen ddewisol yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

Bydd y Cynghorydd Henshaw yn cael cymorth yn rôl cennad allweddol y ddinas gan y Cynghorydd Helen Lloyd Jones​​, sef y Dirprwy Arglwydd Faer newydd.  Ymgymerodd y ddau gynghorydd â'u swyddi newydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) Cyngor Caerdydd ddydd Iau 23 Mai 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Henshaw "Mae'n anrhydedd mawr cael bod yn 119fed Arglwydd Faer Caerdydd, a dim ond yr 17eg menyw i'w phenodi i'r rôl hon.  Y llynedd fe wnes i gefnogi'r Cynghorydd Molik fel ei Dirprwy Arglwydd Faer ac rydw i nawr yn gyffrous i gynrychioli dinasyddion Caerdydd fel eu Harglwydd Faer".

Mae'r Arglwydd Faer yn gweithredu fel prif gennad ar gyfer swyddogaethau dinesig y ddinas, ac fel y cadeirydd yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn.

Cafodd y Cynghorydd Henshaw ei hethol i'r Cyngor am y tro cyntaf yn 2017 ac fe'i hail-etholwyd yn 2022 i gynrychioli ward y Sblot.  Ei merch Angharad Anderson yw ei Harglwydd Faeres.

Ganwyd y Cynghorydd Henshaw yn Wrecsam, Gogledd Cymru a symudodd i Gaerdydd yn 2014. Mae ganddi bartner ac mae ganddynt bedwar o blant a phedwar o wyrion.   Mae ganddi radd Saesneg/Hanes ac Aciwbigo, ac mae wedi rhedeg busnes bach llwyddiannus fel aciwbigydd.

Mae'r Cynghorydd Henshaw yn cymryd yr awenau fel yr Arglwydd Faer o'r Cynghorydd Bablin Molik ac mae'r Cynghorydd Lloyd Jones yn cymryd yr awenau fel Dirprwy Arglwydd Faer o'r Cynghorydd Henshaw.

​​​ ​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd