- Bydd etholiad yn cael ei chynnal ar gyfer Aelod Seneddol i wasanaethu De Caerdydd a Phenarth.
- Gellir cael papurau enwebu o swyddfa'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), Ystafell 263, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW, yn ystod yr amserau a nodir isod.
- Mae'n rhaid i'r papurau enwebu gael eu danfon i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn Ystafell 263, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW ar unrhyw ddiwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn o ddydd Mawrth i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm (ac eithrio gŵyl y banc) ond heb fod yn hwyrach na 4pm ar 7 Mehefin 2024.
- Gellir talu’r ernes o £500 drwy dendr cyfreithiol neu drwy ddrafft banc o dynnwr sy’n cynnal busnes fel banc yn y Deyrnas Unedig. Ffefrir taliadau drwy BACs.
- Os oes brwydr ar gyfer yr etholiad bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar Dydd Iau 18 Mehefin 2024.
- Mae’n rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn canol nos ar 18 Mehefin 2024.
- Mae'n rhaid i geisiadau diwygiadau neu ganslo pleidleisiau post gyrraedd y Swyddog Cofrestru Ystafell 263, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW erbyn 5pm 19 Mehefin 2024.
- Rhaid i geisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr neu Ddogfen Etholwr Dienw sy'n ddilys ar gyfer yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ar 26 Mehefin 2024.
Gellir gwneud ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr ar-lein.
- Rhaid i geisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Ystafell 263, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW erbyn 5pm ar 26 Mehefin 2024.
- Ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy ar frys yn yr etholiad hwn yn Ystafell 263, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW erbyn 5pm ar 4 Gorffennaf 2024.
Dated: 3 Mehefin 2024
Paul Orders
Y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)