Os ydych am bleidleisio yn yr etholiad hwn, rhaid i chi eisoes fod wedi cofrestru i bleidleisio.
Bydd etholiad seneddol y DU yn cael ei gynnal ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024. Gelwir hyn hefyd yn etholiad cyffredinol.
Mae'r etholiad yn rhoi cyfle i bobl ddewis eu Haelod Seneddol (AS). Bydd AS yn cynrychioli ardal leol (etholaeth) yn Nhŷ'r Cyffredin am hyd at 5 mlynedd.
Mae dewis o sawl ymgeisydd ym mhob etholaeth. Rhai fydd yr ymgeiswyr lleol ar gyfer pleidiau gwleidyddol cenedlaethol.
Bydd yr ymgeisydd sy'n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau yn dod yn AS dros ei etholaeth.
Pwy gaiff bleidleisio?
Cewch bleidleisio yn yr etholiad hwn os ydych wedi cofrestru i bleidleisio ac:
- rydych yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig neu ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad,
- rydych yn 18 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad,
- rydych yn byw yn y DU neu’n ddinesydd y DU sy'n byw dramor sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, ac
- mae gennych yr hawl gyfreithiol i bleidleisio.
Cofrestrwch i bleidleisio
Os ydych am bleidleisio yn yr etholiad hwn, rhaid i chi eisoes fod wedi cofrestru i bleidleisio.
Os ydych wedi symud cyfeiriad ers cofrestru i bleidleisio, rhaid i chi fod wedi gofrestru eto.
Gallwch ddysgu mwy am gofrestru i bleidleisio.
Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn oedd 11:59pm ddydd Mawrth 18 Mehefin.
Pleidleisio
Os ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio, gallwch bleidleisio:
- wyneb yn wyneb,
- drwy’r post, neu
- drwy ddirprwy.
Bydd angen i chi bleidleisio mewn
gorsaf bleidleisio benodol yn seiliedig ar eich cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol. Bydd eich gorsaf bleidleisio yn cael ei nodi ar eich llythyr pleidleisio. Byddwn yn anfon hwn atoch cyn yr etholiad.
Dogfen adnabod â llun
Rhaid i chi ddangos
ddogfen adnabod dderbyniol sy’n cynnwys llun neu Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr i bleidleisio mewn person yn etholiad Senedd y DU.
Y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr yn yr etholiad hwn oedd 5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin.
Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy’r post yn yr etholiad hwn oedd 5pm ddydd Mercher 19 Mehefin.
Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn oedd 5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin.
Newidiadau i ffiniau
Bydd y ffiniau etholaethol newydd yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf ledled y DU.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar yretholaethau newydd ar wefan Comisiwn Ffiniau Cymru.
Dyma etholaethau Caerdydd:
- Gabalfa
- Y Mynydd Bychan
- Llys-faen a Draenen Pen-y-graig
- Ystum Taf
- Llanisien
- Pontprennau a Phentref Llaneirwg
- Rhiwbeina
- Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais
- Ffynnon Taf
- Adamsdown
- Cyncoed
- Llanrhymni
- Pentwyn
- Pen-y-lan
- Plasnewydd
- Tredelerch
- Trowbridge
- Butetown
- Cathays
- Cornerswell
- Dinas Powys
- Grangetown
- Llandochau
- Plymouth
- Y Sblot
- Awstin Sant
- Stanwell
- Sili
- Caerau
- Treganna
- Trelái
- Y Tyllgoed
- Llandaf
- Pentyrch a Sain Ffagan
- Radur a Phentre-poeth
- Glan-yr-afon
- Pont-y-clun
Ymgeiswyr annibynnol
Ar ddydd Llun 3 Mehefin, am 6pm, mae'r
Comisiwn Etholiadol yn cynnal sesiwn friffio rithwir ar gyfer ymgeiswyr annibynnol sy'n sefyll yn etholiad Senedd y DU.
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar sut i gwblhau eich papurau enwebu, a bydd hefyd yn rhannu gwybodaeth ynghylch gwariant, rhoddion ac adrodd ar ôl y bleidlais.