Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Grant Urddas Mislif

​​​​​​Grant Llywodraeth Cymru yw hwn i sefydliadau sy’n gweithio i helpu cymunedau a phobl yng Nghaerdydd. Mae’r grant yn caniatáu i sefydliad ddarparu cynhyrchion i bobl o aelwydydd incwm isel. 


Os gwnewch gais, bydd angen i chi ddangos i ni fod y grwpiau a'r gweithgareddau rydych yn eu rhedeg yn hawdd eu cyrchu ac yn hyrwyddo ffordd o fynd i'r afael â thlodi mislif. 

Ar gyfer beth gellir defnyddio’r arian?

Gallwch ddefnyddio'r arian i brynu a dosbarthu: 

  • nwyddau mislif fel tamponau, padiau, cwpanau mislif, dillad isaf mislif amldro neu ddewisiadau amgen addas, 
  • bagiau gwaredu nwyddau mislif, ​​​​
  • pyrsiau storio neu fagiau gwlyb ar gyfer nwyddau amldro, a
  • weipiau gwlyb (dim ond i'w cynnig os yw rhywun oddi cartref a'u hangen at ddibenion hylendid).



Gallwch hawlio hyd at £2,000 drwy'r grant hwn.  Mae'n rhaid i chi wario o leiaf 75% o'r arian ar nwyddau mislif ecogyfeillgar.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth ac i gael gwybod sut i wneud cais.


Os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen i chi ddarparu adroddiadau prosiect a thystiolaeth gwario ar ddiwedd pob cyfnod adrodd.

Lleoliadau nwyddau mislif



Logo Lywodraeth Cymru​​
© 2022 Cyngor Caerdydd