Oes. Mae amryw o ffyrdd y gellir lleihau eich bil ardrethi busnes, Ymhlith y rhain mae:
Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024 i 2025
Cyn i chi wneud cais, darllenwch y canllawiau ar wefan Busnes Cymru
Gwneud cais am Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024 i 2025
Rhyddhad elusennol/dewisol i’r ardrethi
Mae gan elusennau'r hawl i gael rhyddhad o’r ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig yn y rhestr ardrethi leol sy'n cael ei ddefnyddio’n llwyr neu'n bennaf at ddibenion elusennol. Rhoddir rhyddhad o 80% o’r bil ardrethi eiddo a feddiannir, ac o 1 Ebrill 2008, 100% o’r bil ardrethi eiddo gwag (ar yr amod mai’r defnydd nesaf a wneir o’r eiddo yw gan yr elusen at ei dibenion elusennol). Mae dewis gan awdurdodau bilio i ddileu rhywfaint neu’r cyfan o’r 20% sy’n weddill o fil yr elusen ar gyfer ardrethu eiddo a feddiannir, yn ogystal â rhyddhad o 100% o ran eiddo sydd wedi’i feddiannu gan sefydliadau penodol nad ydynt wedi’u sefydlu na’u cynnal er elw.
Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (Cymru)
O 1 Ebrill 2007 bu rhyddhad ardrethi ar gael i fusnesau bach ar gyfer eiddo sydd a feddiannir sydd â gwerth ardrethol isel. Mae maint y rhyddhad sydd ar gael yn dibynnu ar y gwerth ardrethol a’r math o eiddo dan sylw.
Mae rhywfaint o’r rhyddhad hwn yn orfodol a chaiff ei roi’n awtomatig lle y bo’n bosibl, ond mae’n ofynnol gwneud cais am rai mathau o ostyngiadau.
Cyflwynwyd
Cynllun Ardrethi Busnesau BachDolen yn agor mewn ffenestr newydd newydd a gwell.
Rhyddhad ardrethi ar gyfer eiddo a feddiannir yn rhannol (adran 44A)
Mewn achosion lle yr ymddengys i’r awdurdod fod rhan o eiddo heb ei feddiannu ac y bydd felly am gyfnod byr, yna gall yr awdurdod ofyn i’r Swyddfa Brisio ddosrannu’r gwerth ardrethol ac felly codi ardrethi ar y rhan sydd heb ei feddiannu. Dylid nodi y gall y rhan wag barhau i fod yn atebol ar gyfer yr ardreth eiddo gwag.
Rhyddhad Ardrethi Eiddo heb ei Feddiannu
Hyd 31 Mawrth 2008 roedd gan berchnogion rhai eiddo annomestig gwag hawl i ryddhad ardrethi eiddo gwag o 50%. Dechreuodd atebolrwydd ar ôl i'r eiddo fod yn wag am dri mis. Roedd rhai mathau o eiddo, er enghraifft ffatrïoedd a warysau, wedi'u heithrio'n llwyr o'r tâl cyfradd wag.
Roedd deddfwriaeth a gyflwynwyd ar 1 Ebrill 2008 yn dileu'r gostyngiad hwnnw a chafodd cyfanswm yr eithriad, a fwynhawyd yn flaenorol gan eiddo diwydiannol, ei ddileu bryd hynny hefyd.
Roedd y ddeddfwriaeth newydd yn golygu bod eiddo nad yw'n ddiwydiannol megis swyddfeydd/siopau bellach yn agored i dalu atebolrwydd o 100% ar ôl bod yn wag am fwy na 3 mis. Mae eiddo diwydiannol yn agored i atebolrwydd o 100% ar ôl bod yn wag am fwy na 6 mis.
Er mwyn elwa o'r eithriad cychwynnol hwn o 3 neu 6 mis, bu'n rhaid meddiannu eiddo am gyfnod o 42 diwrnod o leiaf (a elwir y "rheol 6 wythnos").
Fodd bynnag mae Rheoliadau Ardrethi Annomestig (Eiddo Gwag) (Cymru) (Diwygio) 2021 bellach yn golygu o'r 1 Ebrill 2022 bydd eiddo ond yn gymwys ar gyfer yr eithriad 3 neu 6 mis pe bai wedi'i feddiannu'n flaenorol am gyfnod o 26 Wythnos (182 diwrnod).
Yn weithredol, mae hyn yn golygu bod unrhyw eiddo sy'n dod yn wag hyd at 31 Mawrth 2022 ac yn bodloni'r hen "reol 6 wythnos" yn derbyn y cyfnod eithrio 3 neu 6 mis newydd. Bydd yn rhaid i unrhyw eiddo sy'n dod yn wag o 1 Ebrill 2022 fod wedi'i feddiannu am gyfnod o 26 Wythnos i fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad.
Nodwch fod rhai eiddo wedi'u heithrio rhag talu'r tâl cyfradd gwag, er enghraifft adeiladau rhestredig ac eiddo sydd â Gwerth Ardrethol isel, sef GA £2,600 ar hyn o bryd.
Rhyddhad caledi
Gellir rhoi ystyriaeth i ostyngiad neu ryddhad o’r swm sy’n ddyledus os gellir profi y byddai trethdalwr yn dioddef caledi fel arall ac y byddai gweithred o’r fath o fudd i Drethdalwyr Caerdydd.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar unrhyw un o’r materion uchod mae croeso i chi gysylltu â ni
Cysylltu â ni
029 20871491